Skip to Main Content

Mae yna wahoddiad i bobl o bob rhan o Sir Fynwy sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned a chwarae mwy o ran mewn democratiaeth leol, i ddod i sesiwn friffio am ddod yn Gynghorydd Sir. 

Gydag etholiadau lleol ar y gorwel fis Mai 2027, mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal sesiwn wybodaeth i unrhyw un sy’n ystyried sefyll yn yr etholiad a chynrychioli’r bobl a’r lleoedd sy’n annwyl iddyn nhw. 

Mae cynghorwyr sir yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio siâp gwasanaethau lleol, dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau bob-dydd trigolion, a bod yn eiriolwyr dros eu cymunedau. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda thrigolion, sefydliadau lleol, a swyddogion y Cyngor i helpu i sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed a’u cynrychioli. 

Bydd y sesiwn friffio yn gyfle i gael rhagor o wybodaeth am rôl cynghorydd, sut mae llywodraeth leol yn gweithio, a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheiny sy’n dymuno sefyll yn yr etholiad. Bydd y rheiny sy’n bresennol hefyd yn clywed gan gynghorwyr, yn syth o lygad y ffynnon, am eu profiadau nhw o wasanaethu eu cymunedau. 

Cynhelir y sesiwn yn Neuadd y Sir, Brynbuga, ddydd Mercher 9 Rhagfyr 2026 am 6.30pm, gyda’r opsiwn o fod yno’n bersonol neu’n rhithwir. 

Ar 6 Mai 2027, cynhelir etholiadau ar draws Sir Fynwy, gyda 46 sedd Cyngor Sir ar draws 39 ward i’w hethol. Cynhelir etholiadau hefyd ar gyfer 290 sedd ar draws 30 o Gynghorau Tref a Chymuned Sir Fynwy. 

Does dim angen unrhyw gymwysterau penodol na phrofiad blaenorol arnoch i ddod yn gynghorydd. Mae pobl o bob cefndir yn dod â safbwyntiau gwerthfawr i lywodraeth leol. Yr hyn sydd bwysicaf yw ymrwymiad i’ch cymuned, parodrwydd i wrando, ac awydd i ddylanwadu ar ddyfodol Sir Fynwy. 

Bydd y sesiwn friffio yn trafod: 

  • Beth mae cynghorwyr yn ei wneud a sut maen nhw’n cynrychioli eu cymunedau
  • Sut mae’r Cyngor Sir yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau
  • Sut mae cynghorwyr yn gweithio gyda swyddogion y Cyngor a phartneriaid lleol
  • Beth all diwrnod arferol yn y rôl ei gynnwys
  • Hyfforddiant, arweiniad a chymorth sydd ar gael i gynghorwyr
  • Bywyd yn Siambr y Cyngor a’r broses ddemocrataidd
  • Profiadau cynghorwyr a chyngor ganddynt 

 
Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y sesiwn lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein, yma: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/ydych-chi-n-ystyried-dod-yn-gynghorydd-sir