Skip to Main Content

Gwahoddir ffermwyr, tyfwyr, cynhyrchwyr bwyd a diod, busnesau a grwpiau cymunedol i Uwchgynhadledd Bwyd gyntaf Sir Fynwy ledled y sir i rannu syniadau a helpu i lunio dyfodol bwyd lleol.

Cynhelir y digwyddiad gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy, a bydd Tir a Bwyd | Land and Food yn digwydd ar Three Pools Farm ger y Fenni ddydd Gwener 6 Tachwedd. Bydd y digwyddiad am ddim yn dathlu bwyd lleol ac yn ystyried sut i gryfhau’r ffordd y mae’n cael ei dyfu, ei gynhyrchu a’i gyflenwi.

Bydd trafodaethau’n cynnwys cefnogi tyfwyr ffrwythau a llysiau, cryfhau cadwyni cyflenwi cig lleol a helpu rhwydweithiau bwyd i addasu i heriau’r dyfodol, gyda phanel yn cynnwys Sue Pritchard, Prif Weithredwr y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad, ac arbenigwyr eraill ym meysydd bwyd a ffermio.

Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu ymuno â thaith dywys o amgylch Three Pools Farm, cymryd rhan mewn gweithdy madarch bwytadwy ymarferol, pori mewn marchnad fach o gynhyrchwyr lleol, a mwynhau cinio wedi’i wneud gyda chynhwysion lleol.

Ochr yn ochr â’r rhaglen, bydd yr uwchgynhadledd yn arddangos yr amrywiaeth eang o bobl, prosiectau a sefydliadau sy’n helpu i lunio system fwyd Sir Fynwy, ac yn gwahodd cyfranogwyr i helpu i lunio fersiwn nesaf Siarter Bwyd Sir Fynwy.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cyng. Sara Burch: “Mae bwyd yn dod â phobl at ei gilydd. Mae’r uwchgynhadledd hon yn gyfle i gysylltu’r ffermwyr, y tyfwyr, y busnesau a grwpiau cymunedol sydd wrth wraidd bwyd lleol yn Sir Fynwy.

“Trwy rannu syniadau, gallwn gryfhau’r cysylltiadau hynny a siapio dyfodol bwyd yn ein sir. Buaswn yn annog unrhyw un sy’n gysylltiedig i ddod draw.”

Mae’r digwyddiad am ddim, ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd. Cadwch le Tir a Bwyd | Land and Food – Monmouthshire Food Summit 2026.

I wybod mwy am Bartneriaeth Fwyd Sir Fynwy, ewch i foodmonmouthshire.co.uk