Skip to Main Content

Fe fu Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn ymweld â Forge Road, Trefynwy i gwrdd â thrigolion a chlywed o lygad y ffynnon am yr effaith y mae llifogydd wedi’i chael ar y gymuned.

Mae bron yn flwyddyn ers i Storm Claudia daro, ac roedd yr ymweliad yn gyfle i drigolion siarad â’r Prif Weinidog ei hun am eu profiadau a phwysigrwydd adeiladu mwy o wydnwch yn erbyn llifogydd. Gwelodd y Prif Weinidog ardaloedd yr oedd y llifogydd blaenorol wedi effeithio arnynt a chlywodd am waith i ddeall y perygl o lifogydd yn well ac i leihau’r perygl hwnnw.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae llifogydd wedi cael effaith ddinistriol ar bobl ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mewn ardaloedd fel Forge Road. Roedd yn ddefnyddiol iawn clywed yn uniongyrchol gan y trigolion am yr effaith arnyn nhw a’r heriau personol enfawr maen nhw wedi’u hwynebu.

“Roedd hefyd yn dda gweld camau’n cael eu cymryd i leihau effaith llifogydd yn lleol a chlywed am gynlluniau a allai wella gwytnwch ein cymunedau mwyaf mewn perygl yn y blynyddoedd i ddod.

“Wrth i ni agosáu at y gaeaf, mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud yr hyn y gallwn nawr i gyfyngu ar effaith llifogydd. Fy nghyngor i bawb yw bod yn barod a bod yn ddiogel – gwiriwch eich perygl o lifogydd, cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod beth i’w wneud os bydd llifogydd yn effeithio ar eich ardal.

“Gallai ychydig o baratoi nawr wneud gwahaniaeth mawr y gaeaf hwn.”  Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: Rhybuddion Llifogydd

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae trigolion Forge Road wedi gweld â’u llygaid eu hunain yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar eu cartrefi a’u cymuned.

“Roedd yn bwysig i’r Prif Weinidog ymweld â’r ardal a chlywed gan y trigolion eu hunain am eu profiadau a’r heriau maen nhw’n dal i’w hwynebu.

“Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â thrigolion, Cyfoeth Naturiol Cymru a’n partneriaid eraill i wella gwydnwch yn erbyn llifogydd a helpu i leihau’r risg i gymunedau ar draws Sir Fynwy.”

Cewch ragor o gyngor a gwybodaeth am lifogydd yma: Cyngor a Gwybodaeth Ddefnyddiol – Sir Fynwy

Y Prif Weinidog gyda Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Paul Griffiths, aelod ward Osbaston, y Cynghorydd Jane Lucas, a’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby, yn cyfarfod â thrigolion
Y Gwir Anrh Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru