Skip to Main Content
Rhai o’r gwirfoddolwyr a’r staff yn Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst

 Mae yna gais i drigolion Sir Fynwy roi eu hadborth i helpu i ddatblygu ei Siopau Ailddefnyddio poblogaidd yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Llan-ffwyst a Five Lanes, a’u gwella.

Ers agor yn 2019, mae’r siopau wedi dod yn ffefryn ymhlith y rheiny sydd wrth eu bodd â bargen, gan arbed dros 133,000 o eitemau a garwyd unwaith rhag mynd i’r tip a rhoi bywyd newydd iddynt. Nawr, rydyn ni’n gofyn i siopwyr lleol rannu eu barn trwy arolwg Sgwrsio Am Siopau Ailddefnyddio, sy’n rhedeg tan ddydd Mawrth, 17 Tachweddar www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk. Mae copïau papur o’r holiadur hefyd ar gael yn y ddwy siop.

Mae’r holiadur yn holi trigolion beth maen nhw’n ei werthfawrogi fwyaf am y Siopau Ailddefnyddio, beth ellid ei wella a beth hoffent ei weld yn y dyfodol. Bydd yr adborth yn dylanwadu ar gynlluniau ar gyfer y siopau yn y dyfodol.

Mae’r Siopau Ailddefnyddio yn enghraifft wych o’r economi gylchol ar waith. Mae eitemau sydd ar fin cael eu gwaredu yn cael eu nodi gan staff y ganolfan ailgylchu, eu gwirio, eu glanhau, eu trwsio lle bo angen a’u cynnig i’w gwerthu am brisiau fforddiadwy. “Mae elw o’r siopau yn cefnogi ymweliadau ysgolion â’n canolfan un blaned a phrosiectau plannu coed ar draws Sir Fynwy.

Mae’r fenter wedi cyflawni cerrig milltir trawiadol, gan gynnwys adnewyddu ei 1000fed beic yn ddiweddar. Diolch i un o’r gwirfoddolwyr, Chris, mae amrywiaeth eang o feiciau wedi cael eu hadfer ac wedi cael bywyd newydd cyn cael eu gwerthu am brisiau fforddiadwy. Mae Chris yn un o dîm o wirfoddolwyr gwych sydd, gyda’r staff, yn helpu i redeg y siopau. Yn ogystal â beiciau, gall siopwyr hefyd ddod o hyd i ddodrefn, llyfrau, teganau, gêmau, offer garddio, dillad, nwyddau casgladwy a nwyddau trydanol bach sydd wedi cael prawf PAT, ymhlith yr eitemau sydd ar werth.

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae pob eitem a brynir o’n Siopau Ailddefnyddio yn un eitem yn llai i gael ei gwastraffu ac yn un cynnyrch newydd sbon yn llai i’w gynhyrchu.

Mae cyrraedd ein 1,000fed beic yn garreg filltir anhygoel, a byddem wrth ein bodd petai pobl yn helpu i ddylanwadu ar bennod nesaf y stori lwyddiant hon trwy lenwi ein holiadur.”

Mae Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst (NP7 9AQ) ar agor bob dydd Mawrth, 10am-4pm, ac mae Siop Ailddefnyddio Five Lanes (NP26 5PD) ar agor bob dydd Mercher, 10am-4pm – does dim angen trefnu ymlaen llaw. Cewch ragor o wybodaeth ar www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/y-siop/.

Mae Chris, un o’r gwirfoddolwyr, wedi trwsio 1,000 o feiciau
Uchod ac isod: Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst