Skip to Main Content

Mae apêl Dymuniadau’r Nadolig Gwasanaethau Plant Sir Fynwy yn ôl am ei 10fed flwyddyn.

Mae’r apêl yn sicrhau bod y plant a’r bobl ifanc yn Sir Fynwy sydd fwyaf agored i niwed ac â’r mwyaf o angen yn cael taleb neu anrheg Nadolig.

Dosberthir y talebau a’r anrhegion â llaw gan y tîm Gwasanaethau Plant yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, felly mae unrhyw rodd – waeth pa mor fawr neu fach – yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Os allwch chi sbario ychydig o bunnau i’w rhoi trwy’r ddolen isod, byddech chi’n cefnogi plentyn neu unigolyn ifanc sy’n agored i niwed ac yn helpu i ddod â hwyl y Nadolig i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Mae’r apêl yn fyw nawr ac yn fyw hyd nes Noswyl Nadolig.

Y llynedd, dosbarthwyd 85 hamper a 330 anrheg.

Meddau Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, Ian Chandler: “Gall cyfnod y Nadolig fod yn arbennig o anodd i blant a phobl ifanc mewn sefyllfaoedd bregus.

“Buaswn yn annog pobl i roi’r hyn y gallant ei roi, os allant, i ymgyrch flynyddol Dymuniadau’r Nadolig.

“Diolch hefyd i’r staff sy’n gweithio mor galed i sicrhau nad oes unrhyw un yn mynd heb rodd yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl.” Am ragor o wybodaeth am Apêl Dymuniadau’r Nadolig, neu i gyfrannu, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/dymuniadaur-nadolig/