Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gydag ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a Gyrfa Cymru er mwyn deall beth mae pobl sy’n gadael Blwyddyn 11, 12 a 13 yn ei gynllunio ar gyfer eu camau nesaf.

Mae’r gwaith yn rhan o Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid Llywodraeth Cymru, sy’n helpu pobl ifanc i symud i mewn i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Yn ystod mis Hydref, efallai y bydd tîm Camau Nesaf Ysbrydoli’r Cyngor neu Gyrfa Cymru yn cysylltu â theuluoedd dros y ffôn, trwy e-bost neu drwy ymweld â’r cartref. Mae hwn yn drefniant arferol i gadarnhau bod rhywun ifanc wedi setlo neu i gynnig arweiniad os nad ydynt yn siŵr am eu cam nesaf.

Cynhelir sesiynau galw heibio cyfeillgar, anffurfiol hefyd i bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar hyn o bryd, neu a hoffai help i archwilio eu hopsiynau:

  • Dydd Llun, 26 Hydref 2026, Hyb Trefynwy. 10am tan 1pm: Cwrs Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel 2. 2pm tan 4pm: Galw heibio am gymorth
  • Dydd Mawrth, 27 Hydref 2026, Canolfan Ieuenctid y Fenni (nesaf i’r parc sgrialu). 10am tan 1pm: Cwrs Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel 2. 1pm tan 4pm: Galw heibio am gymorth
  • Dydd Mawrth, 27 Hydref 2026, The Zone, Cil-y-coed. 10am tan 3pm 10am tan 12 hanner dydd: Galw heibio am gymorth. Amser tawel. 12 Hanner dydd tan 2pm: Galw heibio am gymorth
  • Dydd Mercher, 28 Hydref 2026, Hyb Cas-gwent. 10am tan 2pm: Galw heibio am gymorth

Gellir cyflwyno amrywiaeth o gymwysterau cyflogadwyedd yn unrhyw un o’n sesiynau, er enghraifft Gwasanaethau Cwsmeriaid a Hylendid Bwyd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy employmentskills@monmouthshire.gov.uk

Meddai’r Cynghorydd Laura Wright, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg: “Mae gadael yr ysgol yn garreg filltir sylweddol, ac er bod gan lawer o bobl ifanc gynlluniau clir ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf, efallai y bydd eraill yn dal i archwilio’u hopsiynau. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn ifanc, a’u teulu, wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

“Efallai bod rhywun yn dechrau mewn coleg, hyfforddiant, swydd neu’n syml yn dal i benderfynu ar eu cam nesaf. Beth bynnag fo’u sefyllfa, mae ein tîm yma i gynnig cyngor ymarferol, anogaeth a chefnogaeth. Gall sgwrs syml wneud gwahaniaeth go iawn, a helpu pobl ifanc i fagu hyder, archwilio’u  cyfleoedd a dod o hyd i’r llwybr sy’n iawn iddyn nhw.”

Cewch ragor o wybodaeth am y rhaglen Camau Nesaf yma: Ysbrydoli Camau Nesaf – Sir Fynwy