Skip to Main Content

Bydd grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, plant ysgol a Chyngor Sir Fynwy i gyd yn siarad i fyny dros Gyflog Teg yn ystod Pythefnos Masnach Deg eleni.

Cynhelir Pythefnos Masnach Deg 2026 rhwng 21 Medi a 4 Hydref.

Thema’r ymgyrch eleni yw Cyflog Teg, oherwydd sut bynnag mae rhywun yn ennill bywoliaeth, maen nhw’n haeddu cael eu talu’n deg.

Yn anffodus, i lawer o ffermwyr a thyfwyr ar draws y byd sy’n cynhyrchu rhai o’n hoff gynhyrchion fel te, coffi, siocled a bananas, dydy hyn ddim yn wir. Mae masnach deg yn bodoli er mwyn newid hynny.

Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y sir, gan gynnwys stondinau Masnach Deg, gweithdai, boreau coffi a hyd yn oed dangosiad ffilm.

Fe fydd arddangosfeydd Masnach Deg mewn hybiau cymunedol ar draws Sir Fynwy hefyd.

Bydd ysgolion hefyd yn cymryd rhan, gyda gwasanaethau boreol a gweithdai Masnach Deg, a bydd stondin Masnach Deg yn Neuadd y Sir.

Bydd ymwelwyr â’r Hyb yn gallu ateb cwis am gyfle i ennill nwyddau Masnach Deg.

Gallwch hefyd gymryd rhan yn y cwis ar-lein trwy Sgwrsio Am Sir Fynwy – www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/pythefnos-masnach-deg-2026

Mae prynu nwyddau Masnach Deg yn gam syml y gall unrhyw un ei gymryd, ac mae yna lawer o gynhyrchion Masnach Deg gwahanol yn ein siopau ar gyfer cyllidebau gwahanol.

Mae masnach deg yn golygu y gall cymunedau fuddsoddi yn eu teuluoedd, addysg, gofal iechyd, busnesau a chymunedau ac edrych ar ôl yr amgylchedd ar yr un pryd.

Meddai’r Aelod Cabinet dros yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae pawb yn haeddu ennill digon i allu byw’n dda a chefnogi eu teulu.

“Mae costau byw yn dal i fod yn bryder i lawer o aelwydydd yn y DU hefyd.

“Yn ffodus, mae llawer o gynhyrchion Masnach Deg ar gael sydd ddim o reidrwydd yn costio mwy, ac mae eu prynu pan allwch chi yn ffordd syml o gefnogi cyflog tecach i ffermwyr a gweithwyr.”

DyddiadAmserDigwyddiadLleoliad
Am bythefnos Arddangosfeydd Masnach Deg mewn Ffenestri SiopauCanol tref Cas-gwent
Am bythefnos Arddangosfeydd a chwisiau Masnach Deg mewn Hybiau CymunedolCil-y-coed, Cas-gwent, Y Fenni, Trefynwy, Brynbuga
Iau 24 Medi12 – 2pmStondin Masnach DegNeuadd y Sir, Brynbuga, NP15 1GA
Gwe 25 Medi7 – 9pmEglwysi Ardal y Fenni a Fforwm Masnach Deg Y Fenni yn dangos ffilm People’s Emergency BriefingNeuadd Mihangel Sant, Y Fenni, NP7 5UD
Sad 26 MediManylion i’w cadarnhauStondin ymgyrch Masnach DegSgwâr Agincourt, Trefynwy, NP25 3DY
Mer 30 Medi12.30 tan 2.30pmMasnach Deg yn ‘ St James Street Kitchen’Eglwys Fethodistaidd Trefynwy, 16A St James St, Trefynwy, NP25 3DL
Iau 1 Hyd10.30amBore coffi Masnach Deg gan gynnwys stondin Masnach DegNeuadd Eglwys Crist, Stryd y Gogledd, Y Fenni, NP7 7EB
Sad 3 Hyd9.30am tan 12.00Stondin Masnach DegMarchnad y Ffermwyr, Stryd Maryport, Brynbuga, NP15 1AD
Sad 3 Hydref10.30am tan 12.30pmBore Coffi Masnach DegTy Price, Sgwâr St Thomas, Trefynwy, NP25 5ES
Sul 4 Hyd4pmGwasanaeth Eglwys Arbennig Masnach DegNeuadd Byddin yr Iachawdwriaeth, Y Fenni, NP7 5DS
Llun 5 Hyd10amBore Coffi Masnach DegNeuadd Bentref Llanofer, Llanofer, NP7 9EU
Llun 5 Hyd10am tan 12.00Masnach Deg yng Nghymrodoriaeth Gristnogol Wyesham Crefftio/ Coffi/SgwrsioCymrodoriaeth Gristnogol Wyesham, Chapel Close, Wyesham, Trefynwy, NP25 3NN