Skip to Main Content

Bydd modurwyr sy’n teithio ar un o brif ffyrdd Sir Fynwy yn elwa wrth i waith ar y ffordd gael ei gwblhau.

Gall Cyngor Sir Fynwy gadarnhau bod y gwaith i osod arwyneb newydd ar yr A472 yn Y Felin Fach wedi cael ei gwblhau.

Dechreuodd y gwaith ar 16 Gorffennaf a chafodd ei gwblhau ddydd Gwener 7 Awst, gan olygu bod modd codi’r cyfyngiadau ddau ddiwrnod ynghynt na’r disgwyl.

Roedd y cynllun yn cynnwys darn o’r ffordd a oedd fwy na dau gilometr o hyd, a defnyddiwyd mwy na 1,640 tunnell o ddeunydd wrth osod yr arwyneb newydd.

Oherwydd natur strategol y ffordd, ynghyd â’r rhan breswyl trwy Y Felin Fach ei hun, roedd yn rhaid gwneud y gwaith mewn camau penodol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.

Roedd y gwaith o osod arwyneb newydd yn heriol oherwydd y gwres eithafol y mae’r rhanbarth wedi’i brofi dros yr wythnosau diwethaf.

Wedi cwblhau’r gwaith o osod arwyneb newydd ar yr A472, trodd ein sylw at Dixton Road.

Roedd y gwaith hwn dros ddarn o tua 750m o hyd ac roedd yn golygu tynnu’r arwyneb ac ailosod mwy na 550 tunnell o Darmac ffres.

Cwblhawyd y gwaith o osod arwyneb newydd ar Dixton Road ar amser hefyd, ddydd Gwener 14 Awst.

Bydd gwaith nesaf y Cyngor i osod arwyneb newydd ar Link Road, Trefynwy, ac yn dechrau ar 1 Medi gan bara 4 i 5 wythnos.

Bydd y gwaith yn cynnwys proses ailgylchu arloesol yn y fan a’r lle gan gontractwr allanol arbenigol, ochr yn ochr â’r gwaith terfynol o osod arwyneb newydd a fydd yn cael ei gwblhau gan ein tîm mewnol.

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Diolch i’r gymuned a busnesau lleol am eu cydweithrediad ac am ddeall yn ystod y gwaith hwn.

“Mae unrhyw waith yn achosi anghyfleustra ond mae gweithio gyda’r gymuned wedi helpu i leihau hyn

“Mae gorffen o flaen amser o dan amodau o’r fath yn glod i ymroddiad y tîm.”