Skip to Main Content

Yn dilyn galw aruthrol gan gymunedau ledled Cymru, mae TrydaNi wedi lansio clwb car trydan newydd yn y Fenni.

Lansiwyd clwb car TrydaNi y Fenni yn gynharach y mis hwn, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Fynwy.

Cymdeithas Fudd Cymunedol yw TrydaNi ac mae wedi cael cymorth nawdd gan y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cerbyd – Kia e-Niro 2022 64kwH sy’n gallu teithio 250+ o filltiroedd ar ôl gwefru – yn cael ei gadw ger y mannau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio Fairfield ac mae defnyddwyr yn ei ddefnyddio yn barod trwy ap TrydaNi.

Gallwch ymaelodi’n rhad ac am ddim ac mae’n costio £2 yr awr (neu £30 y dydd) ac 16c y filltir i ddefnyddio’r car. I ymaelodi a dechrau gyrru, ewch i trydani.org.

Mae lansio’r clwb yn dilyn cais llwyddiannus gan Y Fenni Wyrddach, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Fynwy, ac maen nhw nawr yn gweithio mewn partneriaeth â TrydaNi i helpu i’w redeg.

Sefydlwyd y clwb newydd yn ychwanegol at rai sydd ar waith yn barod ym Methesda, Machynlleth, Aberystwyth, Llanymddyfri, Llanidloes, Llandeilo, Penrhyncoch, Llansteffan, a Llandrindod.

Nod TrydaNi yw bod clybiau ceir yn dod i reoli eu hunain trwy rwydwaith o aelodau neu ‘Hyrwyddwyr Cymunedol” ymroddgar.

Meddai’r Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae TrydaNi wedi gweithio gyda Y Fenni Wyrddach a Chyngor Sir Fynwy i lansio’r clwb hwn.

“Dyma’r dyfodol, lle mae mwy a mwy o ddinasyddion yn teithio’n wyrddach, yn decach ac yn rhatach, boed hynny ar drên, ar fws neu trwy rannu cerbydau trydan.

“Gyda’n gilydd, rydyn ni’n cyfrannu at ddyfodol sero-net.”

Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper AS: “Mae clybiau ceir fel TrydaNi yn enghraifft wych o sut y mae cymunedau ledled Cymru yn dod o hyd i ffyrdd callach, gwyrddach o deithio.

“Trwy roi mynediad fforddiadwy i bobl i gerbydau trydan, maen nhw’n cefnogi ein nod o leihau dibyniaeth ar geir.”