
Mae Llyfrgell a Hwb Cymunedol Cil-y-coed wedi bod yn haid o weithgarwch diolch i grŵp cymunedol lleol sydd wedi creu gardd fywyd gwyllt gyntaf y llyfrgell i ddenu pryfed sy’n peillio ac adar.
Cofleidiwyd y fenter gan aelodau ymroddgar Cyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed a chyflwynwyd cais i gynllun Cadwch Gymru’n Daclus, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Yn ganlyniad, cawsant becyn Gardd Bywyd Gwyllt Fach i drawsnewid ardal tu allan i lyfrgell y dref yn hafan i wenyn, pryfed ac adar.
Aeth grŵp Cyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed ati ar unwaith, gan ddechau gweithio gyda’r pecyn a oedd yn cynnwys hanfodion fel blodau gwyllt, lafant, planhigion dringo brodorol, pridd, compost di-fawn, trywelion, can dŵr, trelis, gwesty chwilod, bocs adar a thŷ pili-pala.
Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Dyma enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn dod at ei gilydd ac yn teimlo’n angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth. Bydd y prosiect hwn yn Llyfrgell Cil-y-coed yn gwneud i’r ardal edrych yn fwy deniadol, ond bydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bryfed sy’n peillio, pili-palaod ac adar.
“Hoffwn ddiolch i holl aelodau Cyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed a staff y Llyfrgell, yn ogystal â Thîm y Tir a fu’n gosod y blychau plannu a’r blychau cynefinoedd. Mae’n enghraifft wych o gydweithio – ac, yn ganlyniad, bydd cymaint yn gallu mwynhau’r lle hwn ar gyfer natur. Edrychaf ymlaen at ei weld yn tyfu dros y misoedd nesaf.”
A dydy’r prosiect ddim wedi rhoi’r offer heibio eto – maen nhw’n bwriadu gweithio gyda thîm Addysg Gymunedol y Cyngor i gynnig sesiwn gwehyddu helyg i oedolion. Bydd y llyfrgell hefyd yn cynnig nifer o sesiynau crefftau ac amserau stori wedi’u hysbrydoli gan natur i blant, a bydd yr arddangosfeydd llyfrau yn annog pawb i fwynhau natur.
Rhowch ddydd Llun 20 Gorffennaf yn eich dyddiadur oherwydd bydd grwpiau cymunedol lleol yn dod at ei gilydd i ddathlu’r prosiect arbennig hwn yng Nghil-y-coed.
Dewch draw i’r digwyddiad rhwng 2.30pm a 4pm, a chewch gyfle i fwynhau perfformiad gan The Chepstow Singers a gweld enillwyr cystadleuaeth farddoniaeth y prosiect yn cael eu cyhoeddi. Bydd eitemau gan y Grŵp Crosio, wedi’u hysbrydoli gan natur, ar werth, a bwrdd crefftau, yn ogystal â llawer mwy i’w weld a’i wneud.
Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i Hyb Cymunedol a Llyfrgell Cil-y-coed ar Woodstock Way, Cil-y-coed NP26 5DB, neu ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/

