
Mae ymgynghoriad newydd ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Fynwy newydd gael ei lansio, a hoffai Cyngor Sir Fynwy gael eich barn.
P’un a ydych chi’n cerdded, yn olwyno neu’n seiclo, bydd eich adborth yn helpu i wella llwybrau bob dydd mewn saith ardal o’r sir a’r cyffiniau: Y Fenni a Llan-ffwyst, Cil-y-coed, Cas-gwent, Gilwern, Magwyr a Gwndy, Trefynwy a Brynbuga.
Mae’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) yn dangos llwybrau presennol ac yn tynnu sylw at lwybrau yn y dyfodol lle mae cynlluniau ar gyfer uwchraddio neu ddatblygiad dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’n rhan o ymdrech ledled Cymru i wneud teithiau lleol yn iachach ac yn fwy cynaliadwy, gyda chefnogaeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Cymeradwywyd map presennol Sir Fynwy yn 2022, ac mae’n bryd ei ddiweddaru i adlewyrchu’r cynnydd diweddar a chynllunio ar gyfer y dyfodol gyda’ch mewnbwn.
Mae’n ofynnol i bob cyngor yng Nghymru adolygu a gwella eu rhwydweithiau teithio llesol yn rheolaidd. Gall gwelliannau gynnwys creu llwybrau newydd neu wella rhai presennol. Er enghraifft, ail-wynebu llwybrau, lledu troedffyrdd, neu ychwanegu nodweddion fel cyrbiau isel a phalmentydd cyffyrddol i wella hygyrchedd.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, sy’n gyfrifol am Deithio Llesol a Chynhwysol, y Cyng. Sara Burch: “Mae hwn yn gyfle pwysig i drigolion a’r rhai sy’n gweithio yn Sir Fynwy ein helpu i sicrhau bod ein rhwydwaith teithio llesol mor effeithiol ag y gall fod. Rydyn ni eisiau gwybod pa lwybrau rydych chi’n meddwl sydd ar goll, pa rai rydych chi’n teimlo nad oes eu hangen, y gellid eu gwella a pha rai y gallai fod angen eu newid. Felly, os ydych chi’n byw yn neu o gwmpas unrhyw un o’r saith ardal ar y map, ac os hoffech allu cerdded neu olwyno i mewn i’r dref fwy ar gyfer y teithiau hanfodol hynny, rydyn ni wir eisiau clywed gennych.
“Bob blwyddyn, gall Cyngor Sir Fynwy wneud cais am gyllid i wella llwybrau a ddangosir ar fap y rhwydwaith teithio lleol. Mae’r map hefyd yn caniatáu inni flaenoriaethu llwybrau ar gyfer datblygu a gwella – felly mae eich barn yn helpu i sicrhau bod y llwybrau sydd bwysicaf i chi yn cael eu cynnwys.
“Helpwch ni i sicrhau bod y llwybrau hyn yn gweithio i bawb sydd eisiau eu defnyddio a dywedwch eich dweud cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben ddydd Sul 23ain Awst.”
I wybod mwy ac ychwanegu eich adborth yn uniongyrchol at y map rhyngweithiol, ewch i www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/rhwydwaith-teithio-llesol
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, gallwch e-bostio activetravel@monmouthshire.gov.uk
Mae’r ymgynghoriad hwn yn mynd o ddydd Gwener, 22ain Mai tan hanner nos ddydd Sul, 23ain Awst 2026.