Skip to Main Content

Yn dilyn lansio’r Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Fynwy, mae modd ymgeisio nawr i ymuno â Fforwm Partneriaeth Ddiwylliannol Sir Fynwy.

Ar draws Sir Fynwy, mae diwylliant yn rhan o brofiad bywyd. Mae gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr yn cyfoethogi bywydau trigolion o bob oedran, o’n hieuengaf i’n hynaf, gan helpu i feithrin ymdeimlad cryf o berthyn a balchder.

Bydd Fforwm Partneriaeth Ddiwylliannol Sir Fynwy yn dod â’r rheiny sy’n poeni’n fawr am ddiwylliant yn Sir Fynwy ac sydd eisiau helpu i lunio ei ddyfodol, at ei gilydd. Bydd aelodau’n chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu ar gyfer gweithgarwch diwylliannol, rhannu mewnwelediad, hyrwyddo gweithgarwch lleol a helpu i sicrhau bod diwylliant yn parhau i ffynnu ar draws y sir.

Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o leisiau sy’n adlewyrchu tirwedd ddiwylliannol gyfoethog Sir Fynwy. O dreftadaeth, y celfyddydau a chreadigrwydd i weithgarwch dan arweiniad y gymuned, addysg, digwyddiadau a gwirfoddoli.

Efallai eich bod chi’n artist, yn drefnydd, yn wirfoddolwr, yn ymarferydd, yn addysgwr neu’n angerddol am ddiwylliant. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

Trwy ymuno â’r Fforwm, cewch gyfle i:

  • Helpu i lunio blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn Sir Fynwy
  • Dylanwadu ar benderfyniadau a gweithgarwch yn y dyfodol
  • Dod i gyswllt ag eraill sy’n gweithio ar draws y sector diwylliannol
  • Dathlu’r creadigrwydd sydd ar waith yn barod yn ein cymunedau a’i hyrwyddo

Os ydych chi’n frwdfrydig ynghylch gyrru diwylliant yn ei flaen, ac eisiau helpu i greu profiadau ystyrlon, cofiadwy i bobl ar draws Sir Fynwy, dyma’ch cyfle chi i gyfrannu.

Gallwch ymgeisio nawr a’r dyddiad cau yw 1 Mai 2026. I ymgeisio, ewch i: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/fforwm-partneriaeth-ddiwylliannol

Meddai Craig O’Connor, Prif Swyddog Lle a Llesiant Cymunedol / Tracey Thomas, Pennaeth Diwylliant, Dysgu Cymunedol a Digwyddiadau: “Mae diwylliant wrth galon yr hyn sy’n gwneud Sir Fynwy yn lle mor arbennig i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

“Mae’r Fforwm newydd hwn yn golygu gwrando, dysgu a chydweithio. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sydd â phrofiad bywyd, syniadau ffres ac angerdd dros eu cymunedau, fel bod diwylliant yn Sir Fynwy yn parhau i fod yn gynhwysol, yn uchelgeisiol ac â’i wreiddiau mewn lle.”

Tags: , , , , , , , , , , , ,