Unwaith eto, mae’r sylw ar Frynbuga, Tref Flodau Sir Fynwy, ar ôl iddi ennill yr anrhydedd o gael ei henwi’n Lle Gorau i Fyw yng Nghymru yn rhestr Gwobrau Lleoedd Gorau i Fyw 2026 y Sunday Times.
Mae’r rhestr flynyddol uchel ei bri, bob amser yn gystadleuol, gydag ystod eang o ffactorau y mae angen eu bodloni fel ‘lle gwych i fyw’. Mae Brynbuga yn cael ei enwi yn rhestr y Sunday Times am ei hamrywiaeth o grwpiau cymunedol – sy’n cynnwys popeth, o seryddiaeth i chwaraeon – yn ogystal â’i hamrywiaeth o fusnesau, a’i chyfoeth o hanes.
Wrth gwrs, nid yw’r fath ganmoliaeth yn newydd i Frynbuga, mae’n ennill gwobrau aur Prydain yn ei Blodau yn rheolaidd. Y llynedd cafodd ei henwi’n Bentref Mawr Taclusaf yng Nghymru yn 2025. Ni fyddai’r fath lwyddiannau yn bosibl heb ysbryd cymunedol cryf.
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n wych gweld Brynbuga yn cael y fath gydnabyddiaeth. Yma yn Sir Fynwy rydyn ni’n gwybod pa mor arbennig yw Brynbuga. Mae trigolion a busnesau yn byw ac yn gweithio gyda’i gilydd i ennyn ysbryd cymunedol bywiog a rhagweithiol. Rydw i mor falch ohonyn nhw, a’r ffaith eu bod wedi cael y fath gydnabyddiaeth haeddiannol.”
Dywedodd y Cynghorydd Tony Kear, Aelod Ward dros Lanbadog a Brynbuga: “Rwy’n falch iawn fod Brynbuga wedi ei henwi’n Lle Gorau i Fyw yng Nghymru yn rhestr Lleoedd Gorau i Fyw 2026 y Sunday Times. Mae’n gyfle gwych i fwy o bobl ddarganfod ein tref, a’i hystod eang o fusnesau annibynnol. O ficro-fragdai, bariau, caffis a bwytai, i lwybrau cerdded hardd ger yr afon a’r castell, mae cymaint o resymau i ymweld â’r lle. Mae Brynbuga’n llawn haeddu’r wobr ddiweddaraf.”
Mae’r Cyng. Merion Howells, sydd hefyd yn cynrychioli Llanbadog a Brynbuga, wedi byw yn y dref ers dros 20 mlynedd. Cyn hynny bu’n Faer ac yn Gynghorydd Tref: “Rwy’n falch bod ein tref yn cael ei dathlu unwaith eto am yr holl bethau sy’n ei gwneud yn arbennig. Mae’r erthygl yn sôn bod Brynbuga yn lle gwych i fagu teulu, a gallaf dystio i hynny. Pan rydych chi’n byw yma, rydych chi’n cael eich croesawu i’r gymuned ac yn teimlo’n rhan o rywbeth unigryw.”

I gael rhagor o wybodaeth am bethau i’w gwneud a’u gweld ym Mrynbuga ewch i https://www.visitmonmouthshire.com/explore/usk ac ewch amdani i grwydro’r dref a’i gweld drosoch chi’ch hun!