Skip to Main Content

Mae Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr wedi cymryd cam sylweddol tuag at gynaliadwyedd trwy ddod yn ysgol beilot i dreialu cynllun compostio aerobig a Bokashi hybrid, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Fynwy, yn rhan o’i raglen Prosiectau Bwyd Cynaliadwy.

Gwnaeth yr ysgol ymrwymiad hirsefydlog i leihau gwastraff a gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith disgyblion. Wrth fonitro gwastraff amser cinio, nododd disgyblion fod swm sylweddol o fwyd wedi’i goginio a gweddillion oddi ar blatiau, na ellid ei roi mewn biniau compost confensiynol, yn cael ei daflu i ffwrdd.

Ysgogodd hyn yr ysgol i archwilio atebion eraill a allai ddargyfeirio’r gwastraff hwn yn ddiogel ac yn effeithiol, er mwyn ei atal rhag cael ei daflu i ffwrdd. Mae’r cynllun peilot yn cyflwyno system gompostio dau-gam arloesol, sy’n cyfuno eplesu Bokashi â chompostio aerobig gan ddefnyddio compostiwr gwastraff bwyd Ridan.

Yn wahanol i gompostio traddodiadol, mae Bokashi yn broses eplesu anaerobig sy’n defnyddio bran wedi’i frechu’n arbennig i drin gwastraff bwyd, gan gynnwys bwyd wedi’i goginio, llaeth a symiau bach o gig. Mae’r gwastraff bwyd yn cael ei selio a’i eplesu, gan atal arogleuon, cadw plâu i ffwrdd, a lleihau’r nitrogen sy’n cael ei golli yn sylweddol ac mae’n atal allyriadau methan niweidiol ar yr un pryd.

Ar ôl cyfnod eplesu cychwynnol, mae’r gwastraff bwyd wedi’i drin â Bokashi yn mynd i mewn i gam cyn-gompostio. Ar y pwynt hwn, mae’n cael ei drosglwyddo i’r Ridan, lle mae’n cael ei gyfuno â deunyddiau sy’n llawn carbon a’i brosesu’n aerobig.

Mae’r system Ridan yn cyflymu’r broses o dorri’r bwyd i lawr trwy gyfuniad mecanyddol a llif aer, gan gynhyrchu deunydd compost sefydlog sy’n addas i’w aeddfedu ymhellach mewn baeau compost cyn cael ei ddefnyddio ar dir yr ysgol ac mewn ardaloedd tyfu.

Mae’r dull anaerobig-aerobig hybrid hwn yn golygu bod modd ailgylchu gwastraff bwyd a fyddai fel arall yn anaddas ar gyfer systemau compostio arferol, yn ddiogel ar y safle.

Mae hefyd yn darparu proses addysgol weladwy iawn sy’n golygu bod modd i ddisgyblion ymgysylltu â systemau bwyd cylchol ac iechyd y pridd a gwneud rhywbeth cadarnhaol dros yr hinsawdd.

Mae’r prosiect yn cael ei gyflawni trwy gyllid gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac Agriton UK, arbenigwyr mewn Bokashi a Micro-organebau Effeithiol, sy’n arwain y gwaith technegol a’r hyfforddiant, gan weithio ochr yn ochr â’r system gompostio Ridan. Meddai’r Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr i dreialu’r dull compostio arloesol hwn.

“Mae’n enghraifft wych o sut y gall ysgolion arwain y ffordd mewn cynaliadwyedd a chynnwys plant mewn dysgu amgylcheddol ystyrlon, ymarferol ar yr un pryd.”

Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy – Monmouthshire