Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy’n gweithredu systemau rheoli traffig ar Draphont Gilwern yn dilyn asesiad monitro diweddar a ddatgelodd bryderon strwythurol.

Er mwyn diogelu diogelwch y cyhoedd a chynnal gweithrediad parhaus y bont, mae camau adfer yn cael eu cymryd ar unwaith.

Bydd y mesurau traffig canlynol yn cael eu gweithredu ar y bont o ddydd Llun, 19 Ionawr, hyd nes y bydd hysbysiad pellach:

  • Cyfyngiad Pwysau: Bydd gan y bont gyfyngiad pwysau o 3.0 thunnell fetrig.
  • Lôn Sengl : Bydd traffig yn cael ei gyfyngu i un lôn ar draws y bont. Bydd goleuadau traffig dros dro’n rheoli’r traffig.
  • Mynediad i gerddwyr: bydd cerddwyr yn dal i allu defnyddio’r bont.

Mae’r mesurau rhagofalus hyn yn hanfodol i leihau straen ar y bont a sicrhau bod pob cerbyd yn gallu teithio’n ddiogel.

Mae’r Cyngor yn cydweithio ag ymgynghorwyr arbenigol i lunio atebion tymor canolig a hirdymor i ddatrys y materion strwythurol a nodwyd.

Bydd cyflwr y bont ac effeithiolrwydd y mesurau rheoli traffig yn cael eu monitro’n barhaus trwy gydol y cyfnod hwn.

Ar hyn o bryd, ni ellir cadarnhau dyddiad cwblhau, a disgwylir i’r trefniadau rheoli traffig newydd barhau mewn grym am gyfnod estynedig.

Y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn deall y gall y cyfyngiadau hyn achosi anghyfleustra i’r gymuned leol. Mae’r mesurau dros dro hyn yn hanfodol i ddiogelu uniondeb Traphont Gilwern wrth i ni weithio tuag at ateb cynhwysfawr a hirdymor. Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y cyhoedd yn ystod y cyfnod pwysig hwn o waith adfer.”

Am y wybodaeth fwyaf diweddar, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/traphont-gilwern/