Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn falch o dynnu sylw at rôl hanfodol gofalwyr seibiannau byr wrth gefnogi gofalwyr maeth a chyfoethogi bywydau plant mewn gofal ar draws y sir.
Mae seibiannau byr, a elwir hefyd yn ofal seibiant, yn rhoi cyfle i blant mewn gofal maeth i dreulio amser gyda gofalwr maeth cymeradwy arall am noson, penwythnos, neu gyfnod hirach.
Mae’r seibiannau hyn yn cynnig lle newydd, profiadau newydd, a chyfle i blentyn feithrin perthynas ag oedolyn dibynadwy.
I ofalwyr maeth, mae seibiant byr yn amser gwerthfawr i gael hoe fach i ailwefru’r batris, cael trefn ar bethau sydd eisiau eu gwneud, neu orffwys, er mwyn iddyn nhw allu parhau i ddarparu’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer y plant yn eu gofal.
Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn galw ar aelodau’r gymuned i ystyried dod yn ofalwyr seibiant byr. Mae’r rolau hyn yn hyblyg, yn cynnig profiad gwerthfawr, ac yn cael eu cefnogi gyda hyfforddiant ac arweiniad cynhwysfawr yn ogystal â lwfansau hael.
Meddai’r Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Gall gofalwyr maeth sy’n cynnig seibiannau byr helpu gofalwyr i ofalu am eu llesiant eu hunain a rhoi profiadau cadarnhaol i’r plant hyn gyda theuluoedd eraill. Mae pob un sy’n cymryd rhan ar eu hennill.”
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n gofalwyr seibiannau byr. Mae eu hymrwymiad yn ein helpu i adeiladu cymuned faethu gydnerth lle mae pob plentyn yn teimlo’n ddiogel ac wedi’i gefnogi a’i werthfawrogi.”
Mae dros 190 o blant mewn gofal ar hyn o bryd yn Sir Fynwy. Er bod y mwyafrif o’r plant hyn yn byw’n lleol gyda gofalwyr maeth cariadus, mae llawer ohonynt yn cael eu lleoli ymhell i ffwrdd neu mewn cartrefi plant, oherwydd prinder cartrefi gyda gofalwyr maeth. Mae Maethu Cymru Sir Fynwy wedi ymrwymo i recriwtio mwy o ofalwyr maeth lleol, gan sicrhau bod plant yn gallu aros yn agos at eu cymuned, eu teulu a’u ffrindiau.
I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalwr seibiant byr neu am ragor o wybodaeth am fathau eraill o faethu, ewch i: https://sirfynwy.maethucymru.llyw.cymru/
Tags: Foster Wales Monmouthshire, Monmouthshire