
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rhaglen Grantiau Gwella Eiddo Canol Tref.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod canol trefi yn parhau i fod yn lleoedd bywiog a chroesawgar sy’n diwallu anghenion y cymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr.
Mae Grant Gwella Eiddo Canol Tref Sir Fynwy yn cynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer gwelliannau i eiddo sydd wedi’u lleoli yng nghanol trefi dynodedig y Fenni, Cil-y-Coed, Cas-gwent, Magwyr gyda Gwndy, Trefynwy, a Brynbuga.
Mae’r cynllun ar agor i berchnogion eiddo o fewn y ffin gymwys neu lesddeiliaid sydd ag leiaf tair blynedd yn weddill ar y les, neu saith mlynedd ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys adnewyddiadau mewnol i greu unedau preswyl newydd. Gellir gweld y ffiniau cymwys yma: www.monmouthshire.gov.uk/cy/grantiau-gwella-eiddo-canol-trefi-sir-fynwy/
Blaenoriaethau penodol ar gyfer y cyllid yw:
· Prosiectau sy’n dod â lle masnachol gwag yn ôl i ddefnydd
· Prosiectau sy’n cyflawni gwelliant sylweddol i adeiladau y mae eu cyflwr presennol yn cael effaith negyddol sylweddol ar y dreflun.
· Prosiectau sy’n gwella adeiladau hanesyddol yng nghanol y dref.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb yw’r 31ain Awst 2025. Fodd bynnag, oherwydd bod cyllid yn gyfyngedig, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd ar gael o hyd bryd hynny, a gall y cais am ddatganiadau o ddiddordeb gau cyn y dyddiad hwn. Felly, rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb cyn gynted â phosibl.
Bydd prosiectau sy’n cynnig manteision adfywio sylweddol i ganol y dref yn cael blaenoriaeth oherwydd y cyllid cyfyngedig sydd ar gael. Bydd datganiadau o ddiddordeb a cheisiadau yn cael eu gwerthuso wrth iddynt gael eu derbyn, a bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu ar sail dreigl.
Ewch i’r wefan i gael mynediad at y ffurflen datganiad o ddiddordeb: www.monmouthshire.gov.uk/cy/creu-lleoedd-ac-adfywio/
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu drwy Grant Trawsnewid Trefi a Chyngor Sir Fynwy.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod y Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau yng nghanol trefi Sir Fynwy wella eu heiddo a gwella golwg ac awyrgylch cyffredinol canol trefi. Mae denu trigolion ac ymwelwyr i ganol ein trefi yn hanfodol ar gyfer yr economi leol.”
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y grantiau, anfonwch e-bost at mccregeneration@monmouthshire.gov.uk