Skip to Main Content
a Photo collage of places in monmouthshire including, the severn bridge, Shire hall, Wye River, the blorenge mountain and Abergavenny and chepstow high streets

Mae Grantiau Gwella Eiddo Canol Trefi Blaenau Gwent yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer gwelliannau i eiddo yng nghanol trefi dynodedig y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy (gweler dolenni i’r mapiau cysylltiedig yma).

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i sicrhau fod canol trefi yn parhau yn lleoedd bywiog a chroesawgar sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr. Nod y cynllun yw sicrhau dull gwell ac integredig at adfywio ffisegol canol trefi Sir Fynwy. Caiff ei ariannu drwy Grant Creu Lle Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy.

Mae’r cynlluniau a dderbyniwyd yn:

  • Welliannau mewnol ac allanol i ddod â gofod llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd cadarnhaol.
  • Gwelliannau i wyneb allanol siopau heb unrhyw waith mewnol.
  • Trawsnewid lloriau gwag sy’n wag neu heb eu defnyddio’n llawn ar gyfer llety preswyl newydd.
  • Gwaith i alluogi defnydd cyfamser dros dro, mewn adeiladau sy’n wag ar hyn o bryd mewn canol trefi

Mae’r cynllun yn agored i berchnogion eiddo o fewn y ffiniau cymwys neu lesddeiliaid gydag o leiaf saith mlynedd o brydles ar ôl (neu bum mlynedd ar gyfer gwaith allanol yn unig lle mae’r grant dan £50,000).

Mae’r cyllid sydd ar gael yn gyfyngedig a rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n cyflwyno buddion adfywio sylweddol i ganol trefi. Caiff ceisiadau eu hystyried fel y maent yn dod i law. Felly, rydym yn argymell fod ymgeiswyr yn anfon eu datganiadau diddordeb cyn gynted ag sydd modd.

Dywedodd y Cyng Paul Griffiths Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cynllunio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Fynwy: “Mae hyn yn gyfle gwych i fusnesau yng nghanol trefi Sir Fynwy i wella eu heiddo a hefyd i wella golwg a theimlad y canol trefi eu hunain. Mae denu preswylwyr ac ymwelwyr i ganol ein trefi yn hanfodol ar gyfer yr economi leol. Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwelliannau gwych y bydd y grant hwn yn eu galluogi.”

Mae’r cyngor yn awr yn gwahodd rhai sydd â diddordeb i lenwi ffurflen datgan diddordeb fydd ar gael tan 9 Chwefror 2024. Mae’r Ffurflen ar gael drwy glicio ar y ddolen isod:

Map y Fenni – lawrlwythwch yma

Map Cas-gwent – lawrlwythwch yma

Map Cil-y-coed – lawrlwythwch yma

Map Trefynwy – lawrlwythwch yma

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth ar y cynllun yna anfonwch e-bost at mccregeneration@monmouthshire.gov.uk