Skip to Main Content

Yr wythnos hon, mae Tîm Datblygu Chwaraeon MonLife wedi croesawu disgyblion ysgolion cynradd o bob cwr o Sir Fynwy i’w Cynadleddau ‘PlayMaker’ blynyddol.

Mae’r gynhadledd yn dod ag arweinwyr ifanc Sir Fynwy ynghyd ar gyfer hyfforddiant ac i ddathlu eu datblygiad fel arweinwyr.

Cymerodd tua 650 o blant o ysgolion cynradd Sir Fynwy yn y Fenni, Cas-gwent, a Chil-y-coed ran mewn amrywiaeth o weithgareddau a gyflwynwyd gan Wasanaethau cyngor Sir Fynwy, Academi Arweinyddiaeth MonLife, a phartneriaid allanol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r Sir yn y Gymuned.

Yn anffodus, oherwydd y tywydd, mae ein digwyddiad gydag Ysgolion Cynradd Clwstwr Trefynwy wedi’i ohirio am y flwyddyn academaidd hon.

Roedd y digwyddiadau’n cynnwys gweithdai amrywiol, fel datblygu cyfleoedd chwarae, hyrwyddo Teithio Llesol, llais y disgybl, bwyta’n iach, cynaliadwyedd, diogelwch yn y dŵr a llawer mwy.

Derbyniodd y rhaglen wythnos o ddigwyddiadau gefnogaeth wych gan ein Hysgolion Cynhwysfawr, a ddarparodd gyfleusterau ar gyfer y digwyddiadau, yn ogystal â Chlwb Rygbi’r Fenni ym Mharc Bailey.

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon MonLife wedi bod yn cyflwyno Gwobr ‘PlayMaker’ Arweinwyr Chwaraeon drwy gydol y flwyddyn academaidd hon, gan ymgysylltu â bron pob ysgol gynradd yn Sir Fynwy. Ar ôl i’r disgyblion ennill y wobr, maent yn cynorthwyo i gael effaith gadarnhaol ar lesiant yn eu hysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Ymgysylltu a Chydraddoldeb: “Mae Cynhadledd ‘PlayMaker’ yn gyfle gwych i ymgysylltu â’n harweinwyr ifanc.

“Mae mor wych gweld y bobl ifanc hyn yn datblygu ac yn tyfu o fod yn ‘Playmakers’ ym mlwyddyn 5 i wirfoddoli mewn gwaith ieuenctid yn yr ysgol uwchradd ac yna’n aml yn dechrau eu gyrfaoedd mewn datblygu chwaraeon yn Sir Fynwy.

“Mae’n daith ysbrydoledig, ac yn bleser i’w gweld.”

Drwy gydol yr wythnos, cefnogodd 43 o wirfoddolwyr yr Academi Arweinyddiaeth y digwyddiadau, gan gofnodi 172 awr rhyngddynt. Am ragor o wybodaeth am y rhaglen ‘PlayMaker’, neu fentrau 

Datblygu Chwaraeon ehangach, ewch i –www.monlife.co.uk/connect/sports-development   neu e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk