
Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi cyfres newydd o gyfleoedd hyfforddi am ddim i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol a gyflwynir drwy’r fenter BE Community.
Mae’r sesiynau hyfforddi wedi’u cynllunio i ymrymuso unigolion a chryfhau cymunedau lleol drwy roi sgiliau a gwybodaeth hanfodol i wirfoddolwyr.
Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr gael mynediad at hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb am ddim i helpu i wella eu sgiliau. Mae’r sesiynau hyfforddi wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch i bawb.
Mae hyfforddiant wyneb yn wyneb sydd ar ddod yn cynnwys Lefel 2 Diogelwch Bwyd HABC, Profi PAT, Cyflwyniad i’r Cyfryngau Cymdeithasol gyda ProMo Cymru a’n cynnig newydd sbon o Ysgol Tummler.
Mae Ysgol Tummler yn sesiwn hwyliog ac ymarferol, sy’n eich helpu i dyfu eich cymuned o wirfoddolwyr, lleihau’r baich a dod ag egni newydd i’ch grŵp.
Mewn cydweithrediad â ProMo Cymru, mae BE Community yn cynnig hyfforddiant sgiliau digidol o ansawdd uchel. Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar wella cyfathrebu digidol a chreu cynnwys—offer hanfodol i grwpiau cymunedol heddiw ffynnu ac ymgysylltu’n effeithiol.
P’un ai ydych chi’n wirfoddolwr profiadol neu newydd ddechrau, mae’r cyrsiau hyn yn gyfle gwerthfawr i feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd, a chyfrannu’n fwy effeithiol at eich cymuned.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae gwirfoddolwyr a Grwpiau Cymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, gan ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau a all gyfoethogi bywydau ein trigolion.
“Rwyf wedi bod yn ffodus i gwblhau sawl un o’r cyrsiau hyn ac wedi eu mwynhau’n fawr. Os ydych chi eisiau gwella’ch sgiliau i gefnogi cymunedau ymhellach, edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael.”
I ddysgu mwy neu gofrestru ar gyfer sesiynau sydd i ddod, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/community/hyfforddiant/ neu cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol –BECommunity@monmouthshire.gov.uk.