Skip to Main Content

National Highways wedi cyhoeddi diweddariad ar y cwymp creigiau sy’n dal i effeithio ar yr A40.

Yn dilyn y digwyddiad, rhoddwyd mesurau argyfwng ar gyfer rheoli traffig ar waith i alluogi awdurdodau i ail-agor yr A40 cyn gynted ag sydd modd.

Mewn ymateb i adborth, ac mewn ymgynghoriad gyda’r awdurdodau priffyrdd  lleol a phartneriaid teithio, dywedodd National Highways y byddant yn symud y  cau lôn presennol  i fod ymhellach lan yr heol, i’r gogledd o gylchfan Dixton wrth y ffin. Bydd y newid hwn yn helpu i lacio tagfeydd wrth y gylchfan.

Bydd y newid mewn rheoli traffig yn digwydd dros nos ddydd Iau, 28 Mawrth. Bydd y terfyn cyflymder 40mya yn parhau yn ei le drwy gydol y gwaith ffordd yn ogystal â’r rhwystr concrit dros dro, sy’n atal cerrig rhag syrthio i lwybr traffig.

Ynghyd â symud ymlaen gyda gwaith i addasu rheoli traffig, bu peirianwyr arbenigol yn dadansoddi’r difrod a achoswyd gan y cwymp creigiau a sefydlogrwydd ochr y bryn i ddynodi opsiynau ar gyfer gwneud gwaith trwsio.

Mae National Highways yn gweithio gyda’r awdurdodau perthnasol i gytuno ar y ffyrdd gorau o reoli traffig wrth glirio’r cerrig a gwaith atgyweirio, a’r amserau gorau i wneud hyn.

Byddant yn parhau i wneud pob ymdrech i ostwng effaith y cwymp creigiau ar y gymuned leol a’r cyhoedd wrth deithio, a dywedant eu bod yn gwerthfawrogi amynedd parhaus y cyhoedd tra’n cwblhau’r gwaith diogelwch hanfodol.

Cafodd tudalen gwefan ei chreu ar gyfer y prosiect, a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd. Mae hefyd gyfeiriad e-bost  lle gall pobl gofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost.

Cyfeiriad E-bost: noreplyA40WMids@nationalhighways.co.uk

Tudalen gwefan y prosiect: nationalhighways.co.uk/our-roads/west-midlands/a40-leys-bend-rockfall/

Tags: