Skip to Main Content

Mae agwedd flaengar Sir Fynwy tuag at brydau bwyd ysgol wedi denu sylw un o Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Ymwelodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg a Addysg, ag Ysgol Gynradd Dewstow yng Nghil-y-coed heddiw (dydd Iau, 22ain Chwefror 2024).

Cafodd ei dywys o amgylch yr ysgol a siarad â disgyblion am eu prydau bwyd. Mae Sir Fynwy yn falch o weithio gyda chyflenwyr lleol i ddarparu prydau o ansawdd uchel wedi’u coginio’n ffres bob dydd i bob disgybl ysgol gynradd.

Minister for Education and Welsh Language Jeremy Miles MS speaking to pupils and Headteacher Mrs Bain
Gweinidog y Gymraeg a Addysg, Jeremy Miles AS yn sgwrsio gyda disgyblion gyda’r brifathrawes Mrs Bain

oedd y Gweinidog hefyd yn awyddus i gael gwybod beth yr oedd y Cyngor yn ei wneud i annog pobl i fanteisio ar brydau ysgol am ddim. Mae prydau ysgol am ddim cyffredinol ar gael i bob disgybl o fewn ysgolion cynradd y Sir.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Roedd yn fraint cael tywys y Gweinidog o amgylch Ysgol Gynradd Dewstow. Rydym yn falch iawn o’n cynnydd wrth sicrhau bod pob disgybl yn gallu cael y prydau ysgol gorau posibl. Rydym yn rhan o’r Prosiect Llysiau Cymreig yn yr Ysgol, sy’n cefnogi’r gadwyn cyflenwi bwyd lleol, yn enwedig llysiau.”

Roedd y Gweinidog hefyd wedi cwrdd â phrifathrawes yr ysgol,  Liz Bain, Llywodraethwyr yr Ysgol, staff, y Cynghorydd Sir lleol Tony Easson a swyddogion y Cyngor Sir.

Arweinydd y Cyngor Cyng. Mary Ann Brockeslby, Gweinidog y Gymraeg a Addysg, Jeremy Miles AS, Llywodraethwr yr Ysgol Cyng. Tony Easson ar prifathrawes Mrs Bain