Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio ei Strategaeth Economi, Cyflogaeth a Sgiliau newydd.

Gan nodi uchelgeisiau’r cyngor, mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar wneud Sir Fynwy yn sir ddi-garbon ffyniannus, gan gefnogi lles, iechyd, ac urddas i bawb ar bob cam o’u bywyd – man lle mae gan bawb y sgiliau a’r cyfle i gyfrannu at y gymuned a’r economi leol.

Mae’r Strategaeth Economi, Cyflogaeth a Sgiliau yn canolbwyntio ar fusnesau presennol a mentrau cartref newydd, gan eu galluogi i weithredu’n effeithlon a chyflawni eu cynlluniau twf, tra’n targedu cyfleoedd mewnfuddsoddi dethol.

Mae Sir Fynwy eisoes yn cael ei chydnabod fel lle deniadol i wneud busnes, gan gadw ei safle fel yr ail economi fwyaf cystadleuol yng Nghymru ar ôl prifddinas Caerdydd, ac mae wedi gwella ei safle yn y DU ers 2019 (Mynegai Cystadleurwydd y DU 2023).

Mae Cyngor Sir Fynwy yn parhau i weithio’n galed i sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i’w entrepreneuriaid a’i fusnesau o bob maint trwy bartneriaethau â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Porth y Gorllewin a Phartneriaeth Twf y Gororau.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cynllunio a Datblygu Economaidd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Mae Sir Fynwy yn lle cyffrous a phroffidiol i wneud busnes ac rwy’n dweud wrth yr holl fuddsoddwyr hynny a allai edrych ar ein strategaeth – “dewch i ymuno â ni”.

“Byddwch yn perthyn i gymuned greadigol o bartneriaid sy’n rhwydweithio ledled De Cymru, De-orllewin Lloegr a’r Gororau. Rydym yn sir sy’n adeiladu pontydd yn hytrach na rhwystrau. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o economi lwyddiannus nad yw’n gweld unrhyw ffiniau.”

Mae gweithredu tîm cymorth busnes newydd, Busnes Sir Fynwy, yn dangos ymhellach ymrwymiad y cyngor i helpu busnesau i dyfu a llwyddo. Mae tîm Busnes Sir Fynwy yn cynnig gwasanaeth cofleidiol amhrisiadwy o gymorth busnes cynhwysfawr ac wedi cynorthwyo mwy na 200 o fusnesau yn y sir ers haf 2023. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch EconomicDevelopment@Monmouthshire.gov.uk