Skip to Main Content

Bydd Mynwent Trefynwy yn ail-agor ar gyfer claddedigaethau ar ôl i Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Trefynwy wneud gwelliannau sylweddol i’r seilwaith.

Mae’r gwaith a ariannwyd gan Gyngor Tref Trefynwy wedi creu rhan newydd o’r fynwent a oedd yn anhygyrch cyn hyn. Mae’r ardal hon bellach wedi’i chlirio er mwyn gallu paratoi ar gyfer claddedigaethau. Bydd y gwelliannau hefyd yn galluogi claddedigaethau ar waelod y safle.

Ers 2010, nid yw claddedigaethau mewn lleiniau beddau newydd wedi bod yn bosib ym Mynwent Trefynwy oherwydd yr ardal derfynol anaddas a achosir gan lefel trwythiad uchel. Arweiniodd hyn at gau’r fynwent yn rhannol.

Dywedodd y Cynghorydd Ben Callard, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Adnoddau: “Rydym yn deall pa mor anodd y gall fod i deuluoedd a ffrindiau pan fyddant yn colli anwyliaid ac mae’n bwysig ein bod yn darparu’r holl gefnogaeth angenrheidiol. Drwy agor y darn newydd hwn o’r fynwent, gall y gymuned leol roi eu hanwyliaid i orffwys yn eu hardal eu hunain.”

Dywedodd cyn Faer Mynwy ac aelod o Weithgor y Fynwent, Terry Christopher: “Rwy’n falch iawn o wybod bod yr CSF/CTT wedi dod i drefniant i ail-agor Mynwent Trefynwy. Nawr,  mae gan bobl Trefynwy yr opsiwn i claddu eu hanwyliaid yn eu tref. Hoffwn ddiolch nid yn unig i swyddogion CSF a CTT , ond hefyd i bawb oedd yn bresennol a chyn-Gynghorwyr sydd wedi gweithio er 2017 i gyflawni hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am Fynwentydd a chladdedigaethau, ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/gwasanaethau/y-swyddfa-gofrestru/47071-2/43842-2/

Tags: ,