Skip to Main Content

Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn o Gyngor Sir Fynwy yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd Cynghorwyr i weithio tuag at Sir Fynwy yn ddod yn Sir sy’n Oed-Gyfeillgar ac ymuno â rhwydwaith byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Gymunedau sy’n Oed-Gyfeillgar. Mae gan Sir Fynwy boblogaeth sy’n heneiddio, gyda mwy na chwarter y trigolion yn 65 mlwydd oed neu’n hŷn.

Bydd y Cyngor yn gweithio gyda busnesau lleol, sefydliadau trydydd sector, partneriaid statudol a’r gymuned ehangach i feithrin unigolion i heneiddio’n iach ac egnïol, gan wneud Sir Fynwy yn fwy deniadol i bobl o bob oed, boed yn breswylwyr neu’n ymwelwyr.

Wrth gynnig y fenter, dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Ian Chandler: “Rydym yn dathlu’r cyfraniad y mae ein trigolion hŷn wedi’i wneud i adeiladu Sir Fynwy sydd yn lle hardd, ffyniannus a hael y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono. Ein hymrwymiad yw helpu pawb – ni waeth pa mor hen ydynt, pa mor iach ydynt neu ba mor gyfoethog ydynt – i fyw bywyd llawn a gweithgar cymaint â phosibl.”

Mae’r Cyngor yn gwahodd holl drigolion 50 oed neu hŷn i gymryd rhan mewn arolwg, gan rannu eu profiadau a’u meddyliau am fywyd bob dydd yn Sir Fynwy. Wrth lansio’r arolwg, dywedodd y Cynghorydd Ian Chandler: “Bydd llais ein trigolion hŷn yn ganolog i unrhyw ymdrechion i greu sir sy’n oed-gyfeillgar. Os ydych yn 50 oed neu’n hŷn, mae hwn yn gyfle gwych i chi roi adborth i ni ar yr hyn sy’n bwysig i chi. Dyma’ch cyfle i ddweud wrthym beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella. Cymerwch amser i lenwi’r arolwg os gwelwch yn dda.”

I gwblhau’r arolwg, a fydd ar agor rhwng 25ain Ionawr a’r 7fed Mawrth, ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/age-friendly-monmouthshire-survey/

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi wyth maes allweddol sy’n hanfodol i lesiant y boblogaeth 50+. Mae hwn yn gyfle gwych i chi roi adborth ar y meysydd hyn.

Yr wyth maes y mae’r arolwg yn canolbwyntio arnynt yw:

  • Mannau ac Adeiladau Awyr Agored
  • Cludiant
  • Tai
  • Cyfranogiad Cymdeithasol
  • Parch a Chynhwysiad Cymdeithasol
  • Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth
  • Cyfathrebu a Gwybodaeth
  • Gofal Cymunedol ac Iechyd

Bydd Tîm Partneriaethau Cyngor Sir Fynwy ar gael mewn gwahanol leoliadau ym mis Ionawr a mis Chwefror i gwrdd â thrigolion a thrafod yr arolwg. Er mwyn cael gwybodaeth am leoliad, ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/age-friendly-monmouthshire-survey/

Yn ogystal â’r arolwg, mae’r Cyngor wedi penderfynu creu rôl Hyrwyddwr Pobl Hŷn i helpu i yrru’r fenter yn ei blaen.

Tags: