Skip to Main Content

Diweddariad

Diolch i bawb sydd wedi rhoi adborth hyd yn hyn. Mae’r ymgynghoriad yn parhau i fod ar agor a bydd yn cau am 23:59 ddydd Gwener 5 Ionawr 2024.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymestyn y cyfnod ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus y Cynllun Trafnidiaeth Lleol!

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus heddiw (17eg Tachwedd 2023) ar ein Cynllun Trafnidiaeth Lleol, a fydd yn llywio ein gweledigaeth ac uchelgais ar gyfer trafnidiaeth ar draws Sir Fynwy.

Gyda ffocws ar greu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy, integredig a hygyrch, mae Cyngor Sir Fynwy am gasglu eich barn ar ei weledigaeth, amcanion a fframwaith strategol ar gyfer datblygu rhwydwaith trafnidiaeth Sir Fynwy yn y dyfodol.

Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Lleol hefyd yn llywio’r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid a’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, sydd yn cael i’w datblygu gan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Er mwyn gweld y cynigion a rhoi eich adborth, ewch i’r arddangosfa ar-lein yma: mcclocaltransportplan.virtual-engage.com

Mae mynediad TG ar gael am ddim yn Hybiau Cymunedol a Llyfrgelloedd Sir Fynwy, wedi i’w lleoli yn Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga. Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim, a byddwch gyda mynediad i holl wasanaethau a chymorth mae’n hybiau yn cynnig.

Rydym yn awyddus i glywed barn y gymuned, ac yn annog pawb i rannu ei adborth, a fydd yn cyfarwyddo’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol terfynol.

Mae’r ymgynghoriad ar agor am bedair wythnos ac yn cau am 23:59 ar ddydd Gwener 15fed Rhagfyr 2023.

Tags: