Skip to Main Content

Wrth i rieni plant sy’n paratoi i ddechrau’r ysgol y flwyddyn nesaf ystyried eu dewisiadau, bydd mwy o blant yn cael cyfle i gael addysg ddwyieithog o fis Medi 2024 ymlaen.

 Bydd egin ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Nhrefynwy yn agor diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

 Os ydych yn rhiant i blentyn sydd rhwng dwy a phum oed, sy’n byw yn Nhrefynwy neu’r dalgylch, beth am ystyried rhoi addysg cyfrwng Cymraeg iddynt?

 Mae’n dra hysbys bod plant yn dysgu ieithoedd newydd yn haws nag oedolion a bydd tyfu i fyny’n ddwyieithog yn rhoi mantais fawr i’ch plentyn pan fyddant yn camu i’r gweithle proffesiynol maes o law.

 Mae ymgeiswyr sy’n siarad mwy nac un iaith yn creu argraff ffafriol ar nifer o gyflogwyr, ac mae diddordeb arbennig gan fusnesau o Gymru yn y Gymraeg.

Mae creu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nhrefynwy yn ganolog i gyfraniad Cyngor Sir Fynwy i strategaeth Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 Bydd hefyd yn fodd o gyflawni’r targedau sydd wedi’u gosod yng Nghynllun Strategol Addysg Gymraeg 22-32 y cyngor a bydd yn cefnogi ein strategaeth ehangach sy’n anelu i gynyddu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ledled y sir. 

 Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles: “Rwy’n falch o weld gwaith yn dechrau ar yr ysgol gynradd Gymraeg newydd wych hon, sy’n cael ei chreu diolch i’n cyllid Grant Cyfalaf ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg.

“Bydd yn sicrhau y bydd mwy o ddysgwyr ifanc yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn gynnar a bydd yn ein helpu i gyrraedd ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Dywedodd Y Cynghorydd. Martyn Groucutt, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldebau dros Addysg: “Mae’r Gymraeg yn hynod bwysig, ac mae gweld darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei chyflwyno yn galonogol iawn.

“Mae gweld nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Fynwy yn cynyddu yn rhywbeth cadarnhaol iawn.

“Agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd berffaith o sicrhau bod eich plentyn yn cael y Gymraeg fel rhodd, ac yn tyfu fyny gyda hi.”  I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais a sicrhau lle i’ch plentyn yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Nhrefynwy – ewch i Gwneud cais am le mewn ysgol — Sir Fynwy.