Skip to Main Content

Mae adroddiad cyhoeddedig i Gabinet Cyngor Sir Fynwy yn nodi sut mae’n paratoi ar gyfer dyfodol ariannol ansicr.

Mae trigolion Sir Fynwy yn dibynnu ar gyllid y Cyngor Sir am lawer o wasanaethau gan gynnwys eu hysgolion, gofal cymdeithasol, priffyrdd, rheoli gwastraff, tai, hamdden a chynllunio.

Daw mwy na 60% o’r cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn fel grantiau gan y Llywodraeth Ganolog – mae Llywodraeth y DU yn ariannu Llywodraeth Cymru, sydd yn ei thro yn ariannu llywodraeth leol.

Mae’r adroddiad yn nodi ansicrwydd y cyllid hwn, gan nodi na fydd Llywodraeth Ganolog yn cyhoeddi lefelau ariannu awdurdodau lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 tan 20fed Rhagfyr eleni.

Os na fydd y Llywodraeth Ganolog yn addasu ei rhagamcanion cyllid presennol o gynnydd o 3%, mae’r adroddiad yn dangos bwlch o £14.4 miliwn rhwng cost y gwasanaethau presennol a’r cyllid sydd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Ben Callard, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros y Gyllideb: “Rwy’n galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i roi’r sicrwydd sydd ei angen arnom a darparu’r cyllid sydd o leiaf yn talu am gost chwyddiant a’r cynnydd yn y galw am wasanaethau.

“Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwasanaethu ein trigolion yn dda drwy ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl am yr arian sydd ar gael. Os na chawn gyllid sy’n cwrdd â chost chwyddiant yna, yn anochel, bydd angen i ni leihau lefel rhai gwasanaethau yn ogystal â chynyddu’r dreth gyngor a thaliadau am wasanaethau.

“Yn y Gwanwyn, bydd angen i ni lunio cyllideb derfynol sy’n cyfateb i’r cyllid sydd ar gael. Byddwn yn ymgynghori â thrigolion y Sir ar y dewisiadau a fydd angen eu gwneud ym mis Ionawr”.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Mary Ann Brocklesby: “Fel pob Cyngor arall yng Nghymru, rydym yn wynebu sefyllfa ariannol ddigynsail. Mae’r galw ar ein gwasanaethau’n cynyddu tra bod gennym lai o adnoddau ar gael i ddarparu’r gwasanaethau hynny. “Bydd ein Cyngor, fel bob amser, yn rhoi anghenion ein trigolion yn gyntaf. Ni fydd y penderfyniadau a wnawn yn rhai hawdd, ond byddwn yn dod o hyd i ffyrdd o ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus a diwallu anghenion ein trigolion mwyaf bregus. Rwy’n hyderus, drwy gydweithio â phreswylwyr, y byddwn yn gwneud y dewisiadau cywir. Byddwn yn gwneud dewisiadau sy’n rhoi gwerth am arian, tegwch a’r amgylchedd yn gyntaf.”

Tags: