Skip to Main Content

Cytunodd Cabinet Cyngor Sir Fynwy heddiw mai’r ganolfan newydd ar gyfer gwasanaeth Fy Niwrnod Fy Mywyd (FNFM) yn Nhrefynwy fydd Canolfan Dysgu Teulu Overmonnow, a chefnogodd y cynnig gan yr Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol i ohirio’r penderfyniad ar y ganolfan yn y Fenni.

Ein gweledigaeth yw fod pob oedolyn agored i niwed yn cael cyfle i gyflawni’r nodau y maent wedi eu gosod i’w hunain – i gwrdd â ffrindiau, cymryd rhan mewn gweithgareddau diddorol a dymunol a lle’n bosibl i ddatblygu eu hannibyniaeth fel rhan o gymuned groesawgar a chefnogol Sir Fynwy.

Mae’r weledigaeth hon yn sail i’n hymagwedd at lunio gwasanaethau’r dyfodol, yn benodol ein cynigion ar gyfer pobl sy’n defnyddio FNFM i gael adeilad a gaiff ei rannu fel canolfan ar gyfer cael mynediad i amrywiaeth o weithgareddau a drefnwyd yn y gymuned. Rydym yn falch y gallwn symud ymlaen gyda hyn yn Nhrefynwy.

Fodd bynnag, yn y Fenni rydym eisiau oedi, gan fod gan grwpiau cymunedol lleol ac eraill sydd â diddordeb ran gryf wrth ddatblygu cymunedau cefnogol a hoffem fwy o amser i barhau ein trafodaethau gyda nhw i weld lle gallwn gydweithio mwy wrth ddatblygu dull ar y cyd.

Mae’r Cabinet yn glir fod angen canolfan yn y Fenni i ddiwallu anghenion penodol y grŵp cymharol fach o oedolion gyda diagnosis o anabledd dysgu a gaiff eu cefnogi ar hyn o bryd drwy FNFM – gwasanaeth fydd yn parhau i gael ei ariannu a’i drefnu gan Gyngor Sir Fynwy a’i dîm staff ymroddedig. Yn hytrach na symud ymlaen gyda’r penderfyniad ar hyn o bryd, fe wnaethom gytuno heddiw ein bod angen mwy o amser i ystyried yr opsiynau ymhellach, yn arbennig sut y gallai ein dewis o ganolfan ar gyfer FNFM gefnogi cyrff cymunedol eraill sydd eisiau darparu cefnogaeth a chymdeithasu ar gyfer grŵp ehangach o unigolion gydag anableddau corfforol, heriau niwrolegol, anghenion iechyd meddwl ac anawsterau dysgu.

Dywedodd y Cyng Ian Chandler, aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol:

“Rwy’n ymroddedig i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd am sut y cefnogwn bobl o bob gallu yn ein sir. Rwyf eisiau i’r weledigaeth hon gynnwys gofodau ansawdd uchel, sy’n groesawgar a chyfleus, y gall gwahanol grwpiau o bobl o’r gymuned ehangach eu defnyddio yn ogystal â’r rhai a gaiff eu cefnogi’n uniongyrchol gan y Cyngor. Dyna pam, cyn cymryd unrhyw benderfyniadau pellach am y ganolfan ar gyfer gwasanaeth FNFM yn y Fenni, fy mod wedi gofyn am fwy o amser”.
“Cyn gwneud y penderfyniad terfynol, hoffwn gael cyfle arall i ddod â’r gwahanol grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill ynghyd i ymchwilio eu hanghenion a’u dymuniadau ymhellach am y ffordd orau i’w cefnogi”.
“Yn y cyfamser gofynnais i swyddogion y cyngor barhau i gefnogi’r sefydliadau cymunedol hynny i ddatblygu a chodi’r cyllid y maent eu hangen i gyflawni eu huchelgais”.
“Hoffwn hefyd sicrhau pobl sy’n defnyddio FNFM y bydd cefnogaeth i gael mynediad i gyfleoedd dydd yn parhau fel o’r blaen. Rydym yn benderfynol y caiff y penderfyniad am leoliad y ganolfan yn y Fenni ei wneud cyn gynted ag sydd modd fel y gallwn symud ymlaen i weithredu’r argymhellion o’r adolygiad Datrysiadau Ymarfer yn llawn”.
Tags: