Skip to Main Content
Ymgynghoriad ar fynd i'r afael a baw cwn mewn mannau cyhoeddus

Llun o bêl-droedwyr yn cicio pêl ar gae gyda baw ci ar y borfa

Gall trigolion a busnesau Sir Fynwy nawr wneud sylwadau ar y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar reoli cŵn yn y sir fel rhan ymgynghoriad newydd, a agorodd ar 2ail Hydref 2023.

Rhwng 2ail Hydref a’r 25ain Tachwedd, gall trigolion roi sylwadau ar y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd ar reoli cŵn. Mae’r GDMC, sy’n cyd-fynd â llawer o rai eraill yng Nghymru, yn cael ei gynnig i sicrhau bod mannau cyhoeddus yn Sir Fynwy yn lleoedd glanach, iachach a mwy diogel i chwarae, cerdded, gweithio ac ymweld â hwy.

Mae’r mwyafrif o perchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn codi unrhyw faw gan eu hanifeiliaid anwes mewn man cyhoeddus. Ond er gwaethaf ymdrech barhaus y Cyngor i godi ymwybyddiaeth o natur wrthgymdeithasol baw cŵn, mae’r Cyngor yn parhau i dderbyn nifer sylweddol o gwynion ynghylch materion gyda chŵn mewn mannau cyhoeddus.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus tri mis yn 2021, mae’r Cyngor wedi adolygu ei reolaethau presennol drwy ymgynghori ag aelodau etholedig, clybiau/cymdeithasau chwaraeon a pherchnogion tir allweddol mannau cyhoeddus. 

Nod y Gorchymyn newydd yw cyflwyno pum rheol cŵn newydd ar gyfer rheoli cŵn. Mae rheolaethau tebyg wedi’u cyflwyno mewn siroedd eraill yng Nghymru, ac mae 14 sir yn meddu ar GDMC ar gyfer cŵn ar hyn o bryd.

Y pum rheol arfaethedig  gyfer rheoli cŵn a gynigir o dan y Gorchymyn Drafft yw:

  • Darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd â gofal ci lanhau ar ei ôl, os yw’r ci yn ymgarthu mewn man cyhoeddus. Bydd hyn yn berthnasol i bob man cyhoeddus yn Sir Fynwy.
  • Darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sy’n gyfrifol am gi mewn man cyhoeddus gael dull priodol (h.y. bag baw ci) i godi unrhyw faw a adawyd gan y ci hwnnw a dangos bod ganddo/ganddi fag(iau) os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.
  • Darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd â gofal ci, pan fo mewn man cyhoeddus, roi’r ci ar dennyn nad yw’n hwy na dau fetr o hyd pan gaiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig, pan ystyrir nad yw’r ci o dan rheolaeth neu’n achosi braw neu drallod, neu i atal niwsans.
  • Cyflwyno ardaloedd gwahardd cŵn, a adnabuwyd drwy’r ymgynghoriad fel meysydd risg uchel i iechyd y cyhoedd ac sydd angen eu hamddiffyn ymhellach rhag baw cŵn. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys mannau chwarae i blant, caeau chwaraeon wedi’u marcio a thiroedd ysgol/canolfan hamdden yw’r rhain.
  • Cyflwyno nifer o feysydd, a nodwyd trwy ymgynghori fesul achos, lle mae angen cadw ci ar dennyn heb fod yn fwy na dau fetr o hyd. Gall yr ardaloedd hyn gynnwys, er enghraifft, mynwentydd a pharciau sglefrio.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cyng. Paul Griffiths: “Hoffwn ddiolch i’r holl berchnogion cŵn cyfrifol. Nod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus arfaethedig yw sicrhau bod pob man cyhoeddus yn ddiogel i drigolion ac ymwelwyr ein sir fendigedig. Cyn cyflwyno’ch sylwadau drwy’r arolwg, darllenwch drwy’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Drafft, y ddogfen grynodeb a’r Cwestiynau Cyffredin i ddeall y Gorchymyn newydd yn llawn.”

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd y cyngor yn ystyried yr holl safbwyntiau a ddaw i law a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Lleoedd ar gyfer craffu cyn gwneud penderfyniad cyn i’r Gorchymyn fynd i’r Cabinet neu Aelod Cabinet Unigol am benderfyniad.

I ddarllen y Gorchymyn drafft a’r crynodeb, gan gynnwys mapiau o’r safleoedd y bydd y Gorchymyn yn berthnasol iddynt ac i gwblhau’r ymgynghoriad, ewch i’r ddolen ganlynol: https://www.monmouthshire.gov.uk/pspo-dog-controls/

Neu i ofyn i’r ffurflen ymgynghori gael ei hanfon atoch, ffoniwch 01873 735420, neu e-bostiwch iechydamgylcheddol@monmouthshire.gov.uk 

Tags: ,