Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn dathlu 10 mlynedd ers lansio’r Ddeddf Teithio Llesol yng Nghymru. 

Er bod y cysyniad o deithio llesol wedi bodoli ers tro, nid yw pawb yn gyfarwydd â’r term. Mae teithio llesol yn disgrifio gwneud teithiau hanfodol, fel teithio i’r gwaith, ar daith ysgol, i apwyntiadau, a hynny ar droed neu ddulliau teithio eraill sydd yn defnyddio olwynion. Gall yr elfen o olwynion gynnwys beiciau (trydan neu bŵer pedal yn unig), sgwteri, cadeiriau olwyn, beiciau wedi’u haddasu neu sgwteri symudedd.

Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Hoffwn ddiolch i holl breswylwyr Sir Fynwy sydd yn teithio’n llesol, trwy gerdded neu’n defnyddio dulliau teithio ag olwynion ar gyfer teithiau hanfodol megis cymudo i’r gwaith. Gall pobl o bob oed a gallu deithio ag olwynion neu gerdded, ac mae pob taith y gallwn ei gwneud heb y car yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Rydym wedi ein bendithio yma yn Sir Fynwy gyda chefn gwlad hardd tafliad carreg o’n trefi a phentrefi, ac felly mae dewis teithio llesol â’r fantais ychwanegol o allu cysylltu’n wirioneddol â natur a gweld pethau nad ydych chi’n cael y cyfle iddynt wrth yrru. Dysgwch fwy am deithio llesol yn Sir Fynwy drwy ymweld â gwefan BywydMynwy (MonLife) a darganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal.”

Er mwyn dysgu mwy am brosiectau teithio llesol ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/active-travel/ a chliciwch ar un o’r trefi a restrir. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu ar draws y sir, ac felly nawr yw’r amser i groesawu teithio llesol ac elwa’n fwy o’ch taith.

Tags: ,