Skip to Main Content

Hoffai Cyngor Sir Fynwy glywed gan drigolion ar ddyluniad y cynllun Teithio Llesol arfaethedig i ddarparu llwybr cerdded a beicio diogel rhwng Rogiet a Gwndy.

Bydd aelodau o’r gymuned leol yn medru cael y cyfle i siarad â swyddogion o Gyngor Sir Fynwy a WSP ar ddydd Mercher 4ydd Hydref rhwng 2pm a 7pm yn Eglwys y Bedyddwyr, Magwyr. Bydd y digwyddiad yn galluogi trigolion i weld y cynlluniau arfaethedig cyfredol.

Rhwng dydd Mercher 4ydd Hydref a’r 20fed Hydref, gwahoddir trigolion i gwblhau arolwg ar y cynllun arfaethedig i wella’r llwybr beicio a cherdded rhwng Rogiet a Gwndy. Bydd yr astudiaeth sy’n cael ei chynnal gan WSP ar ran Cyngor Sir Fynwy yn ystyried cyfleoedd i wella’r llwybr teithio llesol ar hyd y B4245.

Drwy fynychu’r digwyddiad cyhoeddus a chwblhau’r holiadur, gall trigolion ddweud eu dweud ar y cynlluniau i wella’r cysylltedd rhwng Rogiet a Gwndy a chysylltiadau pellach â Chyffordd Twnnel Hafren.

Mae’r arolwg ar gael trwy wefan MonLife: https://www.monlife.co.uk/cy/b4245-rogiet-to-undy-active-travel-scheme-faq/

Tags: , ,