Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau’n swyddogol y manylion am osod wyneb newydd ar Bont Gwy yn Nhrefynwy. Mae’r gwaith bellach wedi’i roi allan i dendr a bydd contractwr yn cael ei benodi erbyn canol mis Awst.

Y cynllun yw cau’r bont am hyd at bum wythnos o’r dyddiad disgwyliedig 16eg Hydref 2023. Bydd y bont ar gau i gerbydau am 24 awr y dydd er mwyn gallu gwneud gwaith sylweddol yn ail osod wynen y bont.

Bydd y gwaith hanfodol yn golygu tynnu 10cm o wyneb y ffordd oddi ar y bont, a adeiladwyd tua 1615 ac a gafodd ei lledu ym 1878-80. Tra bod y bont heb yr wyneb yma, ni fydd traffig arferol yn gallu croesi. Mae hyn yn sgil y newid yn y llwyth pwysau ar y strwythur unwaith y bydd wyneb yr hen ffordd yn cael ei dynnu. Pe byddem yn caniatáu i draffig arferol i groesi’r bont, byddai’n creu risg o niwed strwythurol posibl i’r bont hanesyddol.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gofyn i gontractwyr weithio 24 awr y dydd ar sifftiau er mwyn cwtogi ar y cyfnod y bydd y bont ar gau.

Mae Cyngor Sir Fynwy eisoes wedi cysylltu â’r holl wasanaethau brys ac argyfwng. Byddwn hefyd yn cysylltu gyda Chyngor Tref Trefynwy, cynghorau cyfagos, Cynghorwyr lleol, ysgolion lleol, timau gofal cymdeithasol a grwpiau cymunedol. Bydd trigolion a busnesau yn Nhrefynwy a Wyesham, gan gynnwys Ffordd Hadnock, yn derbyn gwybodaeth dros yr wythnosau nesaf er mwyn eu galluogi i gynllunio ymlaen llaw.

Dywedodd y Cyng. Dywedodd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am Briffyrdd: “Rydym yn gweithio i sicrhau bod y gwaith hanfodol hwnt ar Bont Gwy yn cael ei gynllunio i leihau’r effaith anochel ar drigolion a busnesau lleol. Rydym yn gofyn i’r contractwyr sy’n cael eu penodi i weithio sifftiau 24 awr y dydd i leihau’r amser y mae’r bont ar gau. Yn anffodus, oherwydd yr angen i dynnu cymaint o wyneb y bont, ni ellir agor y bont ar gyfer traffig arferol nes bod y gwaith wedi’i gwblhau. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra anochel ond hoffem sicrhau trigolion a busnesau y bydd popeth yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei gwblhau fel blaenoriaeth mewn da o bryd. Bydd cerddwyr a beicwyr sy’n dod oddi ar y beic dal yn medru croesi’r bont.”

Mae tudalen ‘Cwestiynau ac Atebion’ gyda gwybodaeth am y gwaith ar gael ar wefan y Cyngor a bydd gwybodaeth hefyd ar gael yn www.monmouthshire.gov.uk/cy/ail-wynebu-pont-gwy/

A  bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i’r prosiect fynd rhagddo. Dilynwch gyfrif y Cyngor ar Facebook a Twitter am y datblygiadau diweddaraf.

Tags: