Skip to Main Content
Young Carers Forum with Cllr Mary Ann Brocksleby and Cllr Meirion Howells
Cyngh. Mary Ann Brocklesby a Cyngh. Meirion Howells gyda Fforwm Gofalwyr Ifanc

Trefnodd Fforwm Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy Ddiwrnod o Hwyl i’r Teulu yng Nghastell Cil-y-coed ar  ddydd Llun, 31ain Gorffennaf. Roedd yn gyfle gwych i ofalwyr ifanc gwrdd â’i gilydd, cael hwyl a dod o hyd i gefnogaeth.

Drwy gydol y dydd, manteisiodd gofalwyr ifanc a’u teuluoedd ar y cyfle i ymlacio a mwynhau gweithgareddau hwyliog, gan gynnwys chwarae pêl-droed pump bob ochr, rhoi cynnig ar y ‘bronco’ a stondin crempog. Roedd yn gyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd ar safle hyfryd Castell Cil-y-coed.

Mae tîm Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy yno i gefnogi, darparu arweiniad a chyfleoedd gweithgaredd cymdeithasol i bob gofalwr ifanc ar draws y sir er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ofalwr ifanc yn teimlo’n unig. Mae’r tîm ymroddedig yn cefnogi gofalwyr ifanc o dan 18 oed gyda sgiliau bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau coginio, sgiliau smwddio a gwnïo, chwaraeon a sesiynau lles.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby: “Mae Gofalwyr Ifanc ar draws Sir Fynwy yn darparu cefnogaeth wych i’w hanwyliaid. Roedd y Diwrnod o Hwyl i’r Teulu yng Nghastell Cil-y-coed yn fodd i ni ddiolch iddynt am eu holl waith. Gobeithio cawsant i gyd ddiwrnod bendigedig. Os ydych chi’n ofalwr ifanc neu’n ‘nabod rhywun sydd yn ofalwr ifanc ac yn chwilio am gefnogaeth, cysylltwch â’n tîm Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc gwych.”

Ychwanegodd y Cyngh. Meirion Howells, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r gefnogaeth y mae pob gofalwr ifanc yn ei ddarparu yn anhygoel. Diolch am eich holl waith, a hynny ar ran Cyngor Sir Fynwy.”

Young Carers with Cllr Meirion Howells at Caldicot Castle
Gofalwyr Ifanc gyda Cyngh. Meirion Howells

Os ydych yn ofalwr ifanc neu’n rhiant neu warcheidwad person ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu, cysylltwch â’r tîm Gofalwyr Ifanc drwy e-bostio youngcarers@monmouthshire.gov.uk neu gael gwybod beth sy’n digwydd drwy chwilio am Sir Fynwy Ifanc Gofalwyr ar Facebook, Instagram, neu Twitter.