Skip to Main Content
Chepstow Castle. Painted in 1794 by JMW Turner
Chepstow Castle. Painted in 1794 by JMW Turner

Mae llun dyfrlliw pwysig o Gastell Cas-gwent a beintiwyd gan JMW Turner ym 1794 wedi’i ddadorchuddio yn amgueddfa’r dref. Mae’r gwaith, o’r enw ‘Castell Cas-gwent ar Afon Gwy, Sir Fynwy Cymru’ bellach yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yn Amgueddfa Cas-gwent er mwyn i drigolion ac ymwelwyr ei edmygu. Mae’r paentiad atgofus yn cael ei arddangos fel rhan o arddangosfa, Taith Gwy, mewn oriel bwrpasol.

Cafodd y llun dyfrlliw ei wneud ym 1794, a’i beintio pan oedd Joseph Mallord William Turner (1775-1851) yn 19 oed. Fe’i creodd ar ei daith gyntaf, a oedd yn daith i dde Cymru, pan oedd Cas-gwent yn fan galw cyntaf iddo ar ôl croesi’r Hafren. Yr olygfa hon o’r castell a glan yr afon yw’r un a fuasai yn ei gyfarch.

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet dros Gymunedau Gweithgar a Byw:

“Mae cael mynediad y tu allan i ddinas fawr i ddarn o waith gan artist mor bwysig yn bwysig iawn. Wrth ddod â chelf yn ôl i ffynhonnell ei hysbrydoliaeth, rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i gymunedau ac ymwelwyr werthfawrogi a chael eu hysbrydoli gan y gweithiau celf hyn. Maent yn dathlu’r treflun yn ogystal â thirwedd Dyffryn Gwy. Rwy’n annog pawb i ymweld â’r arddangosfa hon sy’n rhad ac am ddim, ac mae’n olwg hynod ddiddorol ar wyneb newidiol yr ardal.”
Cllr Sara Burch with some of the MonLife team at the museum
Cyngh. Sara Burch gydag ambell aelod o dîm MonLife yn yr amgueddfa

Mae Amgueddfa Cas-gwent wedi bod yn adeiladu ei chasgliad o weithiau celf gwreiddiol o Ddyffryn Gwy gan artistiaid o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif gyda chefnogaeth y Gronfa Grant Prynu a weinyddir gan y V&A, y Gronfa Gelf, Cymynrodd Beecroft ac yn strategol gyda Chynllun Casglu Diwylliannau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn canolbwyntio ar Daith Gwy. Ariannwyd y gwaith o brynu dyfrlliw Turner gan y sefydliadau hyn, gyda chefnogaeth y Gronfa Caffael Amgueddfeydd.

Roedd Taith Gwy yn fordaith i lawr yr Afon Gwy o Rhosan i Gas-gwent. Daeth ag artistiaid, awduron a thwristiaid cynnar i’r ardal a oedd yn cael eu denu gan ei golygfeydd prydferth a’i hadfeilion rhamantus. Roedd ar  ei hanterth rhwng 1770 a 1850, y cyfnod a oedd yn cyd-daro â datblygiad mawr dyfrlliwiau. Mae wedi bod yn brif ffocws i waith casglu gweithgar Amgueddfa Cas-gwent am y 15 mlynedd diwethaf ac mae wedi dod â gweithiau arwyddocaol gan artistiaid pwysig y cyfnod ynghyd.

Mae casgliadau amgueddfeydd Sir Fynwy hefyd wedi dod yn ffynhonnell o ddelweddau i awduron, newyddiadurwyr a gwneuthurwyr ffilmiau sy’n chwilio am ddarluniau o Ddyffryn Gwy a Thaith Gwy. Y gobaith yw y bydd yn ei dro yn parhau i ysbrydoli ymwelwyr i ddod i Gas-gwent a Dyffryn Gwy i weld y golygfeydd yma drostynt eu hunain, a’r gweithiau celf yn Amgueddfa Cas-gwent.

Mae arddangosfa Taith Gwy ar agor bob dydd rhwng 11am a 4pm (ac eithrio ar ddydd Mercher) a bydd yno tan ddydd Sul 17eg Rhagfyr, 2023 yn Amgueddfa Cas-gwent. I gael rhagor o wybodaeth am amgueddfeydd Sir Fynwy, ewch i www.monlife.co.uk/heritage/

Tags: , , , , ,