Skip to Main Content

Mae Wythnos Genedlaethol Trwyddedu (12fed-16eg Mehefin) yn tynnu sylw bwysigrwydd trwyddedu mewn bywyd bob dydd. Mae trwyddedu yn effeithio ar bawb, bob dydd mewn sawl ffordd, gan gynnwys archebu tacsis, prynu diod alcoholig, ymweld â gŵyl neu theatr, gosod bet, rhoi rhodd i elusen, neu brynu tocyn raffl.

Mae tîm trwyddedu Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i helpu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel; gan weithio’n agos gyda’r Swyddfa Gartref a’r Heddlu drwy gynnal arolygiadau yn y sector lletygarwch, siopau tecawê hwyr y nos a siopau cornel, gan sicrhau bod gan bobl yr hawl i weithio yn y DU, mynd i’r afael â chamfanteisio, amodau gwaith peryglus a chaethwasiaeth fodern.  Mae’r tîm trwyddedu hefyd wedi ymrwymo i helpu’r Heddlu i reoli materion fel llinellau sirol a masnachu pobl.  Gwneir gweithrediadau rhwng trwyddedu a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau i wirio bod tacsis yn ddiogel ac yn cael eu gyrru gan yrwyr sydd wedi’u harchwilio a’u trwyddedu. 

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar:  “Yr wythnos drwyddedu hon, hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled a’u hymroddiad.  Mae trwyddedu yn chwarae rhan allweddol wrth gadw cymunedau ac ymwelwyr yn ddiogel.  Fel ‘Prifddinas Bwyd Cymru’, gyda bwytai cain yn cael eu rhedeg gan gogyddion penigamp, gwyliau gwych, gwersylla a meysydd carafanau hardd, tafarndai gwledig unigryw, caffis annibynnol a marchnadoedd ffermwyr gwych, rydym yn falch o gefnogi cynnal digwyddiadau yn ddiogel fel y gall pawb fwynhau popeth sydd gan Sir Fynwy i’w gynnig.” Darganfyddwch fwy yma: www.monmouthshire.gov.uk/cy/licensing/