Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn nodi Wythnos Ffoaduriaid 2023, sy’n cael ei gynnal rhwng 19eg a’r 25ain Mehefin, gydag arddangosfeydd yn Hybiau Cymunedol Cas-gwent a’r Fenni. Bydd gan y llyfrgelloedd lyfrau ar gael i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyflwr y rhai sydd wedi ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Mae hefyd yn bosibl lawrlwytho eLyfrau a llyfrau llafar am brofiad y ffoaduriaid, a hynny am ddim o’r llyfrgelloedd trwy Borrowbox.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy, ewch i wefan bwrpasol sy’n disgrifio rhai o’r gweithredoedd syml bob dydd y gallwn ni i gyd eu gwneud i gefnogi ffoaduriaid a meithrin cysylltiadau newydd yn ein cymunedau. Gallwch hefyd gefnogi ffoaduriaid ifanc trwy waith Maethu Cymru: Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Thema wythnos ffoaduriaid eleni yw tosturi. Mae hyn yn rhywbeth y mae trigolion y sir wedi’i ddangos dros y 15 mis diwethaf gyda mwy na chant o bobl yn agor eu cartrefi i groesawu’r rhai sy’n ffoi rhag y rhyfel yn yr Wcrain. Nid yw pawb yn gallu gwneud hyn ond gall pawb ymweld â gwefan Wythnos y Ffoaduriaid – beth am wneud un o’r ‘gweithredoedd syml’ i ddangos ein bod yn cefnogi ffoaduriaid yma yng Nghymru a ledled y byd.”

Er mwyn dysgu mwy am y ‘gweithgareddau syml’ sy’n medru gwneud gwahaniaeth, ewch i refugeeweek.org.uk/simple-acts/

Am fwy o wybodaeth am Hybiau a Llyfrgelloedd  Sir Fynwy, ewch os gwelwch yn dda i www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/