Skip to Main Content

Codwyd baner y Lluoedd Arfog y tu allan i Neuadd y Sir ym Mrynbuga ddoe (dydd Llun 19 Mehefin) am 10am, gan nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog.  Bydd y faner yn chwifio yn Sir Fynwy drwy’r wythnos i anrhydeddu cyfraniad, ymrwymiad ac aberth ein personél milwrol, yn y gorffennol a’r presennol.

Cynhelir seremonïau i nodi’r cyfnod cyn Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog, ddydd Sadwrn 24 Mehefin. Mae’r diwrnod yn gyfle blynyddol i’r genedl ddangos cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog.  

Arweiniwyd y seremoni gan y Cynghorydd Sirol Peter Strong, Pencampwr y Lluoedd Arfog, yng nghwmni Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Meirion Howells, Dirprwy Arglwydd Raglaw, Peter Selby DL, yr Uchel Siryf Simon Gibson, yng nghwmni cynrychiolwyr y Lleng Prydeinig Brenhinol, yr RAF, Gwasanaeth Tân De Cymru, Cymdeithas y Llynges Frenhinol, Cangen Trefynwy, Meiri Trefynwy, Brynbuga a’r Fenni, cyd-gynghorwyr, cydweithwyr a Chaplan y Cyngor, y Parchedig Sally Ingle-Gillis.

Dywedodd y Cyng. Howells:

“Mae’n anrhydedd mawr cael bod yn un o’r nifer o benaethiaid dinesig ledled y DU sydd ar hyn o bryd yn codi eu baner dros y Lluoedd Arfog. Rwy’n gobeithio y bydd pawb sy’n gweld y faner yn hedfan yma yn Neuadd y Sir yr wythnos hon yn cymryd eiliad i feddwl am y miloedd o ddynion a menywod o’r Lluoedd Arfog sydd ar hyn o bryd yn peryglu eu bywydau er mwyn amddiffyn ein rhyddid ni a rhyddid pobl eraill i fyw bywyd gweddus, heddychlon a rhydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Peter Strong:

“Rwyfa am gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n holl bersonél ein lluoedd arfog a gweithwyr y gwasanaethau brys, a’u teuluoedd. Bydd y diwrnod yn dathlu gwaith pobl y lluoedd wrth iddynt wasanaethu ledled y byd, gan amddiffyn rhyddid.  Er bod y diwrnod hwn i’r Lluoedd Arfog yn benodol, gadewch i mi dynnu sylw hefyd at waith y gwasanaethau brys; ambiwlans, parafeddygon, tân, yr heddlu ac eraill. Ar ran pobl Sir Fynwy a phawb sy’n gysylltiedig â Chyngor Sir Fynwy, rydym yn dweud diolch yn fawr iawn.”

Daw Wythnos y Lluoedd Arfog ar ôl i Ganolfan Gymorth Cyn-filwyr Sir Fynwy gael ei chyflwyno ym mis Mawrth 2022, gyda’r nod o ddarparu cymorth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gyn-filwyr o’r gymuned filwrol a chyn-filwrol.  Nod y Ganolfan yw grymuso cyn-filwyr, a’r rhai sy’n pontio o fywyd milwrol i fywyd sifil, gan integreiddio i’r cymunedau lleol.

Cynhelir y sesiynau yng nghanol y Fenni sy’n hawdd eu cyrraedd ar lwybrau ceir, trenau a bysiau.  Os ydych yn gyn-filwr o’r lluoedd arfog, gall Hyb Cymorth i Gyn-filwyr Sir Fynwy yn y Fenni roi cyngor, arweiniad a chymorth i chi ar bynciau fel tai, budd-daliadau, dyledion ac iechyd a lles.

Yn yr un modd, os ydych yn bryderus am y dyfodol, neu’n ei chael hi’n anodd addasu, gall siarad â chyn-filwyr eraill eich helpu drwy eich taith.  Bob dydd Llun o 10am – hanner dydd, gallwch ymuno â Chyn-filwyr eraill yn Sir Fynwy yng nghwt Ambiwlans Sant Ioan ym Mharc y Beili, Maes Parcio Fairfield, Y Fenni, NP7 5SG.

I weld pa wasanaethau a chefnogaeth y mae’r Cyngor yn eu darparu ar gyfer personél y Lluoedd Arfog, cliciwch y ddolen hon: www.monmouthshire.gov.uk/cy/y-lluoedd-arfog/