Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn i drigolion i rannu eu barn ar ddau lwybr posib ar gyfer cerdded, seiclo a  symud ar olwynion rhwng Brynbuga a Little Mill/Mamhilad. Mae’r llwybr cerdded ar hyn o bryd rhwng Brynbuga a Little Mill ar hyd yr A472, sydd yn culhau’n sylweddol mewn rhannau ac mae seiclwyr angen defnyddio’r ffordd. Mae llwybrau amgen posib yn cael eu cynnig, naill ai drwy uwchraddio’r troedlwybr presennol  neu ar hyd rhannau o’r rheilffordd na sydd yn cael ei defnyddio mwyach.   

Dyma rai o’r rhesymau pam fod angen llwybr newydd ar gyfer cerdded, symud ar olwynion neu seiclo:

• Yn darparu rhwydwaith cerdded a seiclo sy’n uniongyrchol, cydlynus, cysurus a deniadol ar gyfer yr holl ddefnyddwyr;

• Cynyddu lefelau o fynediad cynaliadwy at wasanaethau addysg, cyflogaeth, iechyd a rhai allweddol eraill;

• Gwella diogelwch yr holl ddefnyddwyr;

• Cynyddu’r nifer o bobl sydd yn cerdded a’n seiclo rhwng Brynbuga, Little Mill a Mamhilad/New Inn;

• Lleihau’r ddibyniaeth ar geir a’r defnydd o geir ar gyfer teithiau byr drwy newid  agwedd pobl; a

• Lleihau effeithiau negatif teithio ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig (h.y. gwella  ansawdd yr aer, gwella amwynderau cyhoeddus a‘n darparu seilwaith draenio cynaliadwy ayyb.)

Mae  un opsiwn ar hyd yr A472: Er bod y gofod wedi’i gyfyngu mewn sawl lleoliad, mae yna welliannau yn bosib eu gwneud ar hyd y briffordd bresennol er mwyn creu llwybr a rennir. Mae hyn yn golygu lledu’r palmant presennol mewn sawl lleoliad a chyflwyno cyfleuster croesfan gwell.  

Yr opsiwn arall yw  creu llwybr Greenway oddi ar y ffordd: Drwy gysylltu gyda’r groesfan yn Ynys Brynbuga, bydd ramp yn cael ei gysylltu gyda’r rheilffordd na sy’n cael ei defnyddio, a bydd yr arwynebedd yn cael ei osod yn unol gyda’r safonau angenrheidiol. Bydd angen bod rhan ganol y llwybr yn cydredeg  gyda’r A472 ar lwybr a rennir ac yna’n ail-ymuno gyda’r rheilffordd pan fydd y tir yn caniatáu hyn.  Bydd y llwybr yn ail-ymuno gyda rhwydwaith heol yn Little Mill, neu’r posibilrwydd  o ymuno gyda Mamhilad.

Os hoffech ddysgu mwy a chwblhau’r arolwg ar yr ymgynghoriad, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/ymgynghoriad-ar-lwybr-y-felin-fach/ cyn 5pm ar ddydd Llun, 26ain Mehefin, 2023.