Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am eich barn ar y lefelau defnydd a’r math o ddefnydd o lwybr cerdded, beicio ac ar olwyn posib rhwng Brynbuga a’r Felin Fach/Mamheilad

Mae’r ddarpariaeth bresennol i gerddwyr rhwng Brynbuga a’r Felin Fach wrth ymyl A472, sydd mewn mannau yn culhau cryn dipyn ac mae’n rhaid i feicwyr ddefnyddio’r heol. Nodwyd llwybrau posibl, naill ai uwchraddiad i’r droedffordd bresennol neu ar hyd rhannau o’r rheilffordd segur.

Nodir yr opsiynau amgen isod:

Wrth ymyl llwybr yr A472

Ffigur yn dangos opsiynau uwchraddio posibl

Er bod lle wedi’i gyfyngu mewn sawl lleoliad, nodwyd bod gwelliannau ar hyd coridor presennol y briffordd yn darparu llwybr defnydd a rennir.  Byddai hyn yn lledu’r palmant presennol mewn sawl lleoliad ac yn gwella cyfleusterau croesi.

Oddi ar y Ffordd – Y Llwybr Gwyrdd

Ffigur yn dangos llwybr posibl – Coch ar reilffordd segur, Glas a gwyrdd wrth ymyl y briffordd

Gan gysylltu o groesfan yn Ynys Brynbuga, byddai ramp yn cael ei osod i’r rheilffordd segur, byddai hyn yn cael ei wynebu i safon sy’n cydymffurfio. Byddai angen i gyfran ganol y llwybr redeg wrth ymyl yr A472 ar lwybr defnydd a rennir ac yna ail-ymuno â’r rheilffordd pan mae tir yn caniatáu. Yna byddai’r llwybr yn ail-ymuno â’r rhwydwaith ffyrdd yn y Felin Fach, neu’r posibilrwydd o ymuno i Famheilad.

Amcanion y Cynllun

Amcanion y cynllun hwn yw:

  • Darparu rhwydwaith cerdded a beicio uniongyrchol, cydlynol, cyfforddus a deniadol sy’n addas i bob defnyddiwr;
  • Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i addysg, iechyd, cyflogaeth a gwasanaethau allweddol eraill;
  • Gwella diogelwch gwirioneddol a canfyddedig yr holl ddefnyddwyr;
  • Cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded a seiclo rhwng Brynbuga, Y Felin Fach a Mamheilad/New Inn;
  • Lleihau dibyniaeth ar geir a defnydd ceir ar gyfer teithiau byr trwy shifft foddol; a
  • Lleihau effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig (h.y. gwella ansawdd aer, gwella amgylchfyd y cyhoedd, darparu seilwaith draenio cynaliadwy, ac ati)

Dweud eich Dweud

Hoffem glywed oddi wrthych ar lefelau a mathau o ddefnydd o’r gwahanol opsiynau hyn, gan ganiatáu i ni gynllunio camau nesaf y prosiect hwn. Cwblhewch yr arolwg ar y ddolen ganlynol neu cwblhewch gopi papur a chyflwyno hynny i Hyb Brynbuga erbyn.