Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am farn trigolion ar y newidiadau arfaethedig i’r polisi trafnidiaeth rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd  2024/2025. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan ddydd Llun, 26ain Mehefin 2023.

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2014, yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant o’r cartref i’r ysgol lle mae plant a phobl ifanc yn bodloni’r meini prawf o ran cymhwystra. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol bob blwyddyn i adolygu eu Polisi Trafnidiaeth ac ymgynghori ar unrhyw newidiadau i’r trefniadau presennol. Er nad yw Sir Fynwy wedi ceisio gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r Polisi Trafnidiaeth, mae diwygiadau wedi’u cynnig i wneud yr arferion gweithredol yn fwy eglur ac yn fwy tryloyw i rieni, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill. Hoffai’r Cyngor gael eich barn ar y Polisi Trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol fel y gall sicrhau ei fod yn ystyried pob un safbwynt.

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 5pm ddydd Llun 26 Mehefin ac yn gofyn am eich barn ar y Polisi Trafnidiaeth arfaethedig ac yn benodol ar y newidiadau allweddol a awgrymir ar y categorïau isod:

Hierarchaeth trafnidiaeth, sydd yn adlewyrchu Strategaeth Trafnidiaeth Llwybr Newydd Llywodraeth Cymru, sydd yn cynnwys Teithio Llesol, trafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth benodol rhwng y cartref a’r ysgol a ‘thrafnidiaeth gwennol’.  

Darparu trafnidiaeth i ysgolion Ffydd.

Dysgwyr sydd â phreswylfeydd deuol.

Dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Asesu addasrwydd ysgolion.

Llwybrau cerdded sydd ar gael.

Mae’r Polisi Trafnidiaeth arfaethedig ar gael fel dogfen ar wahân neu mae modd ei ddarllen ar Trafnidiaeth Ysgol – Sir Fynwy. Mae copi caled o’r ddogfen ar gael hefyd a chysylltwch gyda thîm trafnidiaeth y Cyngor ar 01633 644777 neu e-bostiwch y tîm os gwelwch yn dda ar  passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk er mwyn gwneud cais am gopi.

Mae manylion yr arolwg ar-lein i’w gweld ar Ymgynghoriad polisi trafnidiaeth rhwng y cartref a’r ysgol 24/25 – Sir Fynwy neu os ydych am gopi caled o’r arolwg, maent ar gael yn yr Hybiau Cymunedol neu drwy ffonio  01633 644777 neu e-bostio passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk . Os oes unrhyw gwestiynau penodol gennych am yr ymgynghoriad, e-bostiwch passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk

Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio’r Polisi Trafnidiaeth cyn bod y Cabinet yn ei ystyried ym mis Medi 2023. Bydd y polisi mabwysiedig ac unrhyw newidiadau yn dod i rym ym mis Medi 2024 ac yn berthnasol i bob dysgwr sy’n defnyddio cludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Bydd hyn yn sicrhau bod rhieni dysgwyr sy’n dechrau addysg gynradd neu uwchradd yn 2024 yn ymwybodol o’r Polisi Trafnidiaeth a’r meini prawf cymhwystra cyn cyflwyno ceisiadau ar gyfer dewis ysgol.