Skip to Main Content
Cllr Meirion Howells and Cllr Laura Wright
Cadeirydd y llynedd, y Cyngh. Laura Wright gyda’r Cadeirydd newydd, y Cyngh. Meirion Howells

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dewis Cadeirydd newydd er mwyn gwasanaethu am y 12 mis nesaf.  Etholwyd y Cynghorydd Sir, Meirion Howells, yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y Cyngor ar 18fed Mai, a hynny yn dilyn enwebiad gan  y Cynghorydd Sir Ian Chandler, ac eiliwyd hyn gan Arweinydd y Cyngor, Mary Ann Brocklesby.  

Roedd y Cynghorydd Meirion Howells wedi ei eni mewn pentref bach Cymraeg ei iaith yn Sir Gaerfyrddin. Symudodd y teulu i  Lundain pan oedd yn wyth i redeg llety gwely a  brecwast yn  Victoria, Llundain. Dyma le y dysgodd gan ei rieni am bwysigrwydd bod yn rhan o’r gymuned, drwy chwarae rhan ym mhob agwedd o fywyd Cymry-Llundain a Chapel Cyffordd  Clapham lle’r oeddynt yn mynychu.

Ei gydweddog ar gyfer y flwyddyn fydd ei wraig Sarah, ac weithiau ei fam, Mrs Iris Howells. Mae wedi byw ym Mrynbuga ers 2004 ac mae pump o blant ganddo, gyda thri wedi eu geni yn Sir Fynwy. Mae Meirion a’i wraig yn rhedeg practis osteopatheg ym Mrynbuga ac wedi chwarae rôl flaenllaw yn y gymuned ers symud yma o Lundain. Mae Meirion wedi bod yn Gynghorydd Tref ers y pum mlynedd ddiwethaf, yn cynrychioli ward Llanbadog a Brynbuga fel Cynghorydd Sir, yn llywodraethwr ar Ysgol Gynradd Brynbuga ac mae’n aelod o sawl un o Bwyllgorau’r Cyngor ac yn gwirfoddoli ar ran grwpiau lleol. Rhwng cefnogi ei blant gyda’u hymrwymiadau wythnosol o ran chwaraeon a cherddoriaeth, mae Meirion yn mwynhau canu gyda Chlwb Canu Brynbuga.   

Ch-Dd Y Cadeirydd Cyngh. Meirion Howells a’i wraig, Mrs Sarah Howells, ac ar y dde yn y llun, ei fam Mrs Iris Howells
Ch-Dd Y Cadeirydd Cyngh. Meirion Howells a’i wraig, Mrs Sarah Howells, ac ar y dde yn y llun, ei fam Mrs Iris Howells

Dywedodd y Cyngh. Howells: “Mae’n anrhydedd ac yn fraint i gael fy ethol fel Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy a byddaf yn ymgymryd â’r rôl gydag ymroddiad  a balchder. Fel aelod annibynnol, byddaf yn ceisio mynd i’r afael a’r rôl fel Cadeirydd y Cyngor yn hollol ddiduedd a’n deg. Mae fy ngwraig a minnau yn disgwyl ymlaen yn gyffrous at y flwyddyn nesaf, yn cynrychioli Sir Fynwy mewn digwyddiadau sifig.

Roedd y Cyngh. Mary Ann Brocklesby wedi dweud diolch wrth Gadeirydd y llynedd, y Cyngh. Wright, gan ddweud: “Ar ran y Cyngor cyfan, rydym yn ddiolchgar iawn am eich gwaith. Roedd y Cyngor yn newydd, roedd y weinyddiaeth yn newydd ac roeddech wedi dod ag egni a ffresni i’r rôl. Roeddech wedi dangos eich balchder dros y sir. Roeddech wedi dangos i ni fod cydnabod ‘nad ydym yn gwybod pob dim’ yn gryfder os ydych yn estyn allan, gofyn am help a’n parhau i fwrw ati – rydych wedi bod yn gaffaeliad. Diolch i chi.”

Dywedodd y Cadeirydd y llynedd, y Cyngh. Laura Wright: “Hoffem ddechrau drwy ddweud diolch am fy ethol i. Rwy’n gobeithio fy mod wedi medru gwasanaethu’r Cyngor hyd at eithaf fy ngallu. Mae darllen Datganiad y Brenin yn rhywbeth sydd wedi ei serio ar y cof. Rwyf wedi mwynhau seremonïau gwahanol a Pharti Gardd Brenhinol. Un o’r pethau mwyaf arwyddocaol i mi oedd gosod y fainc ‘hapus i sgwrsio’ yng Nghas-gwent er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd. Mae unigrwydd yn effeithio ar iechyd a lles pawb. Dewisais yr elusen   Mind Sir Fynwy a hoffem ddiolch i bawb am eu haelioni yn cefnogi’r elusen anhygoel hon.    

“Mae pawb yn medru chwarae rhan ac nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd gweithredodd bach a syml o garedigrwydd.  Un o’r pethau gorau am Gyngor Sir Fynwy yw’r diwylliant o garedigrwydd a chymorth, gyda phobl yn helpu ei gilydd. Hoffem ddiolch i’r Cynghorydd Ann Webb am ei phrofiad a’i synnwyr digrifwch.  Mae pob un aelod o’r grŵp wedi bod mor garedig. Mae bod yn Gadeirydd wedi bod yn fraint – ni allai ddiolch i chi ddigon. Rwyf wedi ei fwynhau’n fawr. Diolch i bawb am eu hewyllys da. Rwy’n dymuno pob lwc i’r Cadeirydd nesaf ac yn gobeithio eich bod yn medru mwynhau’r rôl – fel i minnau fwynhau – diolch.”

Mae’r Cynghorydd Su McConnel yn cynrychioli ward Croesonen ward ac fe’i hetholwyd yn Is-gadeirydd ar y Cyngor.