Skip to Main Content

Dyma amser mwyaf bendigedig y flwyddyn… i ddal bws!  Mae siopwyr a chymudwyr Sir Fynwy yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i helpu’r sir fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.  Yn gymhelliant ychwanegol ac mewn amser ar gyfer y Nadolig, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau y bydd holl deithiau bws dros y penwythnos o fewn y sir yn rhad ac am ddim i’r holl ddefnyddwyr, bob penwythnos ym mis Rhagfyr.

Bydd teithwyr yn gallu defnyddio’r cynnig rhad ac am ddim hwn, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer unrhyw siwrne sydd â man cychwyn a man gorffen o fewn Sir Fynwy.  Y gobaith yw y bydd hyn yn annog siopwyr a chymudwyr Nadolig i ddefnyddio’r bws i wneud man siopa Nadolig, ymweld â ffrindiau a pherthnasau, neu dim ond cyrraedd y gwaith. Mae hefyd yn ffordd wych o deithio i gyrraedd gorsaf drenau ar gyfer teithiau ymhellach i ffwrdd.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym mor falch ein bod wedi sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru i helpu i annog trigolion i ddefnyddio mwy ar fysiau’r sir.  Bob penwythnos ym mis Rhagfyr wrth i ni nesáu at y Nadolig byddwch yn gallu ymuno ag unrhyw wasanaeth am daith rhwng dau leoliad yn Sir Fynwy heb orfod talu. Felly beth am gael trip diwrnod am ychydig o siopa Nadolig, neu fynd yn ddi-gar ar eich taith i’r gwaith ac yn ôl?

“Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyflwyno bysiau trydan i’r fflyd ar rai llwybrau yn y sir, ac rydym yn gweithio i adeiladu ar hyn.  Os ydych yn gallu, byddwn yn annog pawb i fanteisio ar y cynllun gwych yma, sy’n dechrau ddydd Sadwrn 3ydd Rhagfyr ac mae’n rhedeg tan ddiwedd mis Rhagfyr. Mae’n esgus perffaith i adael y car gartref.”

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby,

Daw’r teithio bws am ddim ar y penwythnos yn ychwanegol i barcio am ddim ym meysydd parcio’r cyngor bob penwythnos ym mis Rhagfyr, sydd wedi rhedeg am y ddwy flynedd diwethaf er mwyn helpu i gefnogi busnesau lleol ac annog mwy o bobl i siopa o fewn Sir Fynwy. Mae’n cael ei gynnig eto eleni o ddydd Sadwrn 3ydd Rhagfyr i’r rheiny sydd ddim yn gallu teithio ar fws. Y meysydd parcio’r Cyngor yn y cynllun yw’r Fenni, Cas-gwent a Threfynwy (mae meysydd parcio rhad ac am ddim eisoes mewn lleoliadau eraill yn nhrefi eraill y sir).

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid yn yr Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth, Lee Waters,

“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r cynllun bysiau am ddim hwn ar gyfer Sir Fynwy.  Bydd y cynllun nid yn unig yn helpu teuluoedd i wneud arbedion yn ystod argyfwng costau byw awrth i ni nesáu at y Nadolig, bydd yn hwb i’r diwydiant bysiau a’r economi leol yn ogystal ag annog pobl i newid i ffurf fwy cynaliadwy o drafnidiaeth.”

I gael gwybod am ymweliad gwasanaethau bws Sir Fynwy https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/bysiau-a-threnau/amserlenni-bws/. Gellir gweld rhestr o’r maes parcio sydd ym mherchnogaeth y cyngor yn