Skip to Main Content
Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby
Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby

Mae Cyngor Sir Fynwy yn lansio cyfres o ffilmiau byrion ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyflwyno’i Arweinydd a’i Chabinet newydd i drigolion ar draws y Sir.

Mae ffilmiau ‘Cwrdd â’r Cabinet’ yn cynnwys lleoliadau lleol sy’n berthnasol i’w priod Wardiau a chyfrifoldebau Aelodau’r Cabinet, gan gynnwys Castell Cil-y-coed, glan yr afon yng Nghas-gwent, Bryn Llanelli a Threfynwy, a rhoi cipolwg rhagarweiniol ar gefndir, ethos, blaenoriaethau a nodau’r aelodau newydd.

Ers yr etholiad ym mis Mai, mae Aelodau’r Cabinet wedi bod allan ac yn ymwneud ag ymweld â safleoedd allweddol o fewn eu maes cyfrifoldeb, cwrdd â’r rhai dan sylw a’r gymuned ehangach, ar draws y sir.

Yn y cyntaf o’r ffilmiau, ymwelodd arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby â’r Neuadd Les ym Mryn Llanelli a dywedodd: “Beth dwi eisiau gweld yn y pum mlynedd nesaf yw Sir Fynwy sy’n ffynnu.  Lle mae pawb yn teimlo bod lle iddyn nhw.  Eu bod yn cael eu parchu.  Bod ganddyn nhw gartref y maen nhw’n teimlo’n ddiogel ynddo.  Eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned ac wedi’u cysylltu â phobl eraill, a dyma’r lle y maen nhw’n teimlo y gallan nhw ffynnu yn y dyfodol oherwydd bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gennym ni a gyda ni.”

Hefyd, dywedodd Arweinydd y Cyngor, sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo cynwysoldeb:  “Rwy’n mynd i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl yn Sir Fynwy a bod pawb cael eu clywed.”

Ar ddydd Sadwrn 10fed Medi bydd cyfle hefyd i gwrdd â rhai o’r aelodau ym mhabell Cyngor Sir Fynwy yn Sioe Brynbuga, felly beth am fynd draw i ddarganfod mwy am wasanaethau’r cyngor a rhannu eich syniadau ynglŷn â beth yw eich blaenoriaethau chi, rhannu pa brosiectau cymunedol yr hoffech chi eu gweld yn cael eu datblygu, a llawer mwy.

Yn y cyfamser, gallwch wylio’r cyntaf o’r ffilmiau trwy ymweld â gwefan y Cyngor yn www.monmouthshire.gov.uk/cy/cwrdd-ar-cabinet/ neu cewch y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter ac Instagram) drwy ddilyn @MonmouthshireCC