Skip to Main Content

Mae effaith baw anifeiliaid anwes yn Sir Fynwy yn cael ei amlygu yn dilyn diwrnod ymwybyddiaeth sydd â’r nod o ddangos sut y gall perchnogion anifeiliaid anwes atal baw cŵn rhag difetha cymunedau.

Roedd timau allan ym Mharc Belgrave, Dolydd y Castell a Pharc Bailey yn y Fenni, ardaloedd preswyl yn Llan-ffwyst ac yn Wyesham, Trefynwy, ddydd Iau 18fed Awst yn cwrdd â pherchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol a gosod arwyddion newydd ‘Mae’n bosib defnyddio pob bin’. Nod yr arwyddion yw annog pob perchennog cŵn i godi ar ôl eu hanifeiliaid anwes a chael gwared ar fagiau baw yn briodol, naill ai mewn biniau gwastraff cŵn penodol neu finiau gwastraff cyffredinol.

Bydd y gwaith o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd codi gwastraff eich ci yn parhau gan Gyngor Sir Fynwy, sydd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymunedol ar draws y sir, ynghyd ag ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus.

volunteer litter pickers

Yn ystod y diwrnod ymwybyddiaeth blynyddol, fe wnaeth timau Iechyd yr Amgylchedd, a Glanhau Gwastraff a Stryd y Cyngor, yn ogystal â chodwyr sbwriel gwirfoddol, siarad â pherchnogion cŵn, dosbarthu bagiau baw cŵn am ddim a gosod arwyddion i godi ymwybyddiaeth o’r mater. 

Er bod naw o bob deg o berchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes mewn ardaloedd cyhoeddus, mae’r un allan o ddeg nad ydynt yn ymddwyn yn gyfrifol yn cael effaith negyddol ar fannau gwyrdd a pharciau. Mae baw cŵn yn parhau i fod yn un o’r materion amgylcheddol mwyaf aml a dadleuol ac roedd y ffocws y tro hwn ar gaeau chwaraeon ac ardaloedd lle mae plant yn chwarae. Mae’r rhain yn ardaloedd lle gall plant, pobl ifanc ac oedolion ddod i gysylltiad yn fwyaf hawdd â baw cŵn sy’n cael eu gadael ar y ddaear, ac mae’n hanfodol bod pobl yn codi baw cŵn i’w atal rhag dod yn broblem iechyd cyhoeddus. Gellir cael gwared ar fagiau gwastraff cŵn mewn biniau wrth gerdded eich anifail anwes neu gartref yn eich gwastraff bag du cyffredinol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Griffiths, Aelod Cabinet Sir Fynwy sy’n gyfrifol am iechyd yr amgylchedd:  “Mae’r diwrnodau ymwybyddiaeth yma’n bwysig, ond mae’r gwaith o godi ymwybyddiaeth yn barhaus.  Er mai perchnogion cŵn sy’n gyfrifol, dim ond ychydig sydd ddim yn codi ar ôl eu hanifeiliaid anwes ac yn creu problem.  Does dim esgus i beidio cario bagiau baw ac, fel mae’r arwyddion newydd yn dweud ‘Mae’n bosib defnyddio pob bin’. Os bydd pob perchennog cŵn yn gwneud hyn, bydd yn helpu i gadw’r rhai sy’n defnyddio’n mannau gwyrdd a’n caeau chwaraeon – a llawer ohonynt yn blant – yn ddiogel. Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl berchnogion cŵn cyfrifol sydd eisoes yn codi ar ôl eu hanifeiliaid anwes.”

Mae awdurdodau lleol a Heddlu Gwent â’r grym i roi hysbysiadau cosb benodedig, ac mae perchnogion sy’n methu â chodi baw eu hanifeiliaid anwes yn wynebu dirwy o £75 yn y fan a’r lle. Os yw’r person yn gwrthod talu, a’r achos yn cael ei gymryd i’r llys, mae’n bosib y bydd y troseddwr yn cael dirwy o hyd at £1,000.  Gellir rhoi gwybod yn hawdd i’r cyngor am berchnogion cŵn sy’n methu â chodi baw eu hanifeiliaid ar-lein: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/sbwriel-a-baw-cyn/