Skip to Main Content

Fel rhan o fenter ar draws Gwent, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, sydd yn cynnwys y pum awdurdod lleol a chyrff cyhoeddus, yn gofyn am adborth ar fywyd yng Ngwent. Fel rhan o hyn, ac er mwyn sicrhau bod prosiectau yn targedu’r hyn sydd yn bwysig i’r rhan fwyaf o bobl yn Sir Fynwy, mae’r Cyngor yn gofyn cynifer o drigolion ag sydd yn bosib i gymryd rhan cyn y dyddiad cau ar gyfer rhannu adborth, sef 25ain Chwefror 2022.

Mae BGC Gwent a Chyngor Sir Fynwy wedi drafftio asesiad llesiant sydd yn ystyried llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal a’r ardaloedd lleol o fewn hyn. Mae’n cynnwys dadansoddiad manwl o ddata, ystadegau, ymchwil a pholisi a fydd yn oll yn cael eu cyfuno gyda barn trigolion y gymuned. Mae’r asesiad yn cynnwys rhannau gwahanol – Gwent yn ei chyfanrwydd  (ewch i www.gwentpsb.org/well-being-plan/well-being-assessment/ am fwy o fanylion am  asesiad llesiant Gwent), Sir Fynwy ei gyfanrwydd a’r pum ardal leol o fewn Sir Fynwy sydd yn seiliedig ar Y Fenni, Trefynwy, Brynbuga, Cas-gwent a Chil-y-coed www.monmouthshire.gov.uk/cy/ein-sir-fynwy/

Drwy gymryd rhan a chwblhau’r arolwg, rydym yn medru helpu llywio dyfodol y sir yn y ffordd orau bosib. Mae Sir Fynwy yn wynebu rhai heriau sylweddol. Gyda phoblogaeth sydd yn heneiddio, prisiau eiddo yn cynyddu a chyflogau cymharol isel, mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i deuluoedd ifanc i fyw a gweithio yn lleol. Mae hyn yn  dilyn problemau ychwanegol fel llifogydd cynyddol yn sgil newid hinsawdd ac anghydraddoldebau rhwng y sawl sydd ar incwm uchel ac incwm isel.

Er mwyn cymryd rhan, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/ein-sir-fynwy/  cyn 25ain Chwefror a chwblhau’r arolwg. Mae’r holl wybodaeth am ein hamcanion Ein Sir Fynwy, yr Asesiad Llesiant a BGC Gwent oll, ar gael ar y dudalen hon.