Skip to Main Content

Mae gwasanaeth gosod eiddo rhad ac am ddim Cyngor Sir Fynwy yn cynnig cyngor a chefnogaeth i berchnogion eiddo yn yr ardal i helpu gyda’r broses a all ymddangos yn anodd o osod cartrefi. Mae Gwasanaeth Gosod Eiddo Sir Fynwy (MLS), sy’n ymfalchïo yn ei brofiad “dim ffi, dim strach” yn asiantaeth gyda gwahaniaeth, lle caiff llais y landlord a hefyd y tenant eu clywed a’u gwerthfawrogi yn yr un modd.

Mae gan dîm MLS gyfoeth o brofiad ac mae’n awyddus i ddarparu gwasanaeth cyfeillgar, gwybodus a phroffesiynol. Gall MLS helpu landlordiaid i ddenu’r tenantiaid mwyaf addas ar gyfer eu heiddo a chynnig gwasanaeth rheoli llawn rhad ac am ddim yn ogystal â buddion eraill.

Dywedodd y Cynghorydd sir Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am dai: “Dylai landlordiaid gydag eiddo yn Sir Fynwy sy’n edrych am brofiad gosod eiddo proffesiynol siarad gyda’r tîm yn MLS. Mae’n asiantaeth gosod eiddo  sydd â bod yn dryloyw ac onest yn rhan hanfodol o‘i harferion gwaith. Bydd y tîm yn gweithio gyda chi i’ch helpu i reoli a hysbysebu eich annedd yn ogystal â chanfod y tenantiaid mwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau.”

Dylai landlordiaid gydag anheddau yn Sir Fynwy sy’n edrych am wasanaeth gosod eiddo, dim ffi a dim strach gysylltu â Lindsay Stewart, Swyddog Prosiect Sector Tai ar 01291 635713 neu e-bost: mls@monmouthshire.gov.uk.