O uchelfannau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i lawr i ddyffryn coediog yr Afon Gwy, mae Sir Fynwy yn cynnig cynifer o leoedd hardd i ymweld â nhw. Gyda threfi marchnad tlws a ffyniannus o amgylch y sir, gallwch bob amser fod yn sicr o ganfod pethau diddorol i’w gweld, lleoedd gwych i fwyta a busnesau annibynnol yn cynnig y cynnyrch lleol gorau.
Mae Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent bellach ar gau ar gyfer y gaeaf. Byddwn yn ailagor ddydd Sadwrn 19eg Chwefror 2022. Mae hwn yn gyfnod cau sydd wedi’i gynllunio, er mwyn ein galluogi i weithio ar ein casgliadau, cynnal hyfforddiant staff ac adnewyddu ein harddangosfeydd a’n siopau. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno’n fuan unwaith eto! Nodwch y bydd tir Castell y Fenni yn parhau ar agor – 11am i 4pm (Ar gau o’r 23ain Rhagfyr i’r 4ydd Ionawr yn gynhwysol) ac mae Amgueddfa Trefynwy yn parhau i fod ar gau wrth i ni barhau i weithio gyda’n casgliadau i baratoi ar gyfer symud i Neuadd y Sir.