Skip to Main Content

Ydych chi’n cynnal raffl?

Os felly, efallai y bydd angen i chi gofrestru eich cymdeithas. Gweler isod neu gysylltwch â’r adran drwyddedu am ragor o wybodaeth.

Wrth ddiffinio loteri cymdeithas fach, mae’r Ddeddf yn nodi dau faes penodol:

  • Statws y gymdeithas – rhaid i’r gymdeithas dan sylw fod yn ‘anfasnachol’
  • Maint y loteri – rhaid i gyfanswm gwerth y tocynnau sydd ar werth mewn un loteri fod yn £20,000 neu’n llai. Neu rhaid i gyfanswm gwerth y tocynnau sydd ar werth yn holl loterïau’r gymdeithas mewn blwyddyn galendr beidio â bod yn fwy na £250,000. Os yw’r gweithredwr yn bwriadu gwerthu mwy o docynnau na’r uchod, caiff ei ddosbarthu fel gweithredwr loteri mawr a bydd rhaid iddo gael trwydded gan y Comisiwn Hapchwarae

Mae’n rhaid i gymdeithas sy’n hybu loteri gymdeithas fach fod yn gofrestredig gydag awdurdod trwyddedu drwy gydol y cyfnod pan fydd y loteri yn cael ei hybu. Mae’n rhaid i’r loteri cymdeithas fach gofrestru gyda’r awdurdod trwyddedu sy’n gyfrifol am yr ardal lle lleolir prif swyddfa’r gymdeithas.

I gael rhagor o wybodaeth am loterïau cymdeithasau bach, ewch i wefan y Comisiwn Hapchwarae. Mae yno rhai loterïau, fodd bynnag, nad oes angen iddynt gael trwydded, ac mae’r Comisiwn Hapchwarae wedi cyhoeddi cyngor ar loterïau nad oes angen iddynt gael trwydded neu gofrestru.

I wneud cais i gofrestru eich cymdeithas, llenwch y ffurflen gais i gofrestru loteri cymdeithas fach. Ar ôl cofrestru, mae’n rhaid i’r gymdeithas lenwi ffurflen enillion loteri a’i dychwelyd i’r adran drwyddedu heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl dyddiad y loteri, neu yn achos loterïau parod (cardiau crafu), o fewn tri mis i’r dyddiad olaf pan oedd y tocynnau ar werth

Cysylltwch yr Adran Trwyddedu:

Adran Trwyddedu, Canolfan Ieuenctid a Gymunedol Y Fenni, Old Hereford Road, Y Fenni, NP7 6EL.

licensing@monmouthshire.gov.uk

01873 735420