Skip to Main Content

Rydym yn sefydliad democrataidd o gynghorwyr etholedig a chyflogwn swyddogion sy’n gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd.

Mae ein pencadlys ym Mrynbuga ac mae gennym hefyd swyddfeydd ym Magwyr yn ogystal â’r ‘siopau un stop’  lle gall preswylwyr alw heibio i wneud ymholiadau.

Cyflogwn tua 4,500 o bobl. Lle’n bosibl, mae gan staff eu gliniaduron eu hunain fel y gallwn weithredu poilisi o un desg i ddau o bobl – mae hyn yn arbed arian ac yn galluogi staff i weithio pryd bynnag a lle bynnag sy’n gweddu orau iddynt. Yr ethos gwaith ar draws y cyngor yw fod gwaith yn rhywbeth a wnewch ac nid yn rhywle yr ewch iddo.

Ein prif flaenoriaethau yn ein holl waith yw:

  • Sicrhau fod gan bawb fynediad i addysg wych
  • Diogelu pobl fregus
  • Cefnogi economi cryf

Anelwn fod yn gyngor agored ac agos atoch a chaiff popeth ar ein gwefan ei gyhoeddi dan Drwydded Llywodraeth Agored. Anelwn hefyd i wella wrth wneud ein data’n agored, sy’n golygu ei fod ar gael mewn fformat rhwydd cael mynediad iddo. Mae mwy o wybodaeth ar hyn ar ein tudalen data agored.

Gweledigaeth, strategaethau, polisïau a chynlluniau

Gweld ein holl gynlluniau a pholisïau allweddol

Perfformiad

Rydym yn monitro ein perfformiad yn barhaus ac ar ddechrau pob blwyddyn, ym mis Mai fel arfer, rydym yn cynhyrchu Cynllun Gwella sy’n disgrifio’r hyn a wnawn i wella gwasanaethau a chyflawni ein blaenoriaethau fel sefydliad.

Gweld ein gwybodaeth perfformiad

Partneriaeth

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn gyfarfod o swyddogion gweithredol o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus Sir Fynwy.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn eistedd o fewn ein strwythur partneriaeth. Mae’r grŵp yn diweddaru prif raglenni gweithio partneriaeth a thrafod gwell gweithio partneriaeth i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn Sir Fynwy.

Ymweld â thudalennau gwefan partneriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Lleol

Cyllidebau a gwariant

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i reoli cyllid cyhoeddus o ddifrif calon. Gweithiwn gyda chynghorwyr a chydweithwyr mewn adrannau eraill i sicrhau rheolaeth ariannol gadarn gwasanaethau ar gyfer pobl Sir Fynwy.

Gweld yr holl wybodaeth ariannol

Diogelu data

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cofrestru dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gan alluogi’r Cyngor i brosesu data personol.

Gwybodaeth am ddiogelu data

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn galluogi pawb i ofyn i ni ryddhau gwybodaeth sydd gennym ar unrhyw bwnc neilltuol.

Ymweld â'n tudalen gwefan am Ryddid Gwybodaeth

Cydraddoldeb, hygyrchedd ac amrywiaeth

Mae gennym ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws ein holl wasanaethau a sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.

Gweld ein tudalennau gwefan ar gydraddoldeb

Newyddion a datganiadau i’r wasg

Mae pethau’n newid yn aml yn Sir Fynwy ac mae ein gwasanaethau’n gweithio’n galed i wella’n barhaus. Gallwch weld ein holl ddatganiadau i’r wasg ar ein gwefan neu gysylltu â’r tîm cyfathrebu.

Gweld datganiadau i'r wasg